Y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid

Mae'r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS) yn darparu'r Gwasanaeth Ieuenctid statudol ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Caiff y gwasanaeth yma ei ddarparu gan weithlu o staff cymwys sy'n cynnwys gweithwyr yn yr ysgol, gweithwyr ieuenctid yn y gymuned, carfanau gwaith ieuenctid arbenigol a staff rhan-amser medrus. Dyma'r aelodau staff sy'n rhan o'r garfan:

Carfan Ymgysylltu â'r Gymuned ac Ysgolion 

19 Swyddog Ymgysylltu Ieuenctid – 17 ym mhob ysgol uwchradd a 2 arall yn y gymuned, er mwyn rhoi cymorth i bobl ifainc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, a’r rhai sy’n cael eu haddysg heblaw mewn ysgolion prif ffrwd. 

  • Cymorth un-wrth-un i bobl ifainc mewn ysgolion 
  • Cymorth i nodi meysydd angen y bobl ifainc sy'n cael eu cyfeirio at YEPS. Datblygu cynllun gweithredu i gefnogi'r meysydd yma i wella cydnerthedd a lles pobl ifainc. 
  • Rhoi cymorth i bobl ifainc fanteisio ar wasanaethau eraill (Barod, iechyd rhywiol ac asiantaethau arbenigol eraill) 
  • Sesiynau galw heibio amser cinio yn yr ysgol i roi cyngor, arweiniad a gwybodaeth 
  • Gweithgareddau ôl-oriau ysgol 
  • Prosiectau yn seiliedig ar broblemau 

Swyddogion Ymgysylltu a Chynnydd Ieuenctid 

Mae Swyddogion Ymgysylltu a Chynnydd Ieuenctid yn darparu cymorth un-wrth-un i bobl ifainc rhwng 16 a 25 oed, gan gynnwys pobl ifainc sy'n mynychu ysgolion arbennig, cydweithwyr, Unedau Cyfeirio Disgyblion a'r rheiny sy'n derbyn eu haddysg heblaw yn yr ysgol

  • 4 swyddog yn y gymuned 
  • Darparu cymorth un-wrth-un i bobl ifainc 16 i 25 oed 
  • Darparu cymorth un-wrth-un i bobl ifainc sy'n mynychu ysgolion arbennig ledled RhCT 
  • Darparu cymorth i bobl ifainc sy’n cael eu haddysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS) 
  • Cyflwyno gweithdai sy'n seiliedig ar bryderon a sesiynau galw heibio mewn colegau i roi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad 
  • Darparu cymorth mewn ysgolion, colegau, lleoliadau yn y gymuned, sesiynau ar y strydoedd a thrwy ymweld â chartrefi'r bobl ifainc 
  • Darparu prosiectau yn y gymuned. Mae prosiectau'n amrywio ar sail anghenion y gymuned 
  • Cyflwyno pedwar fforwm ieuenctid lleol – Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Cymunedau Diogel, Iechyd Meddwl, a'r Amgylchedd a Chynaliadwyedd 

Cydlynwyr Cyfleoedd Ieuenctid yn y Gymuned 

Mae pob Cydlynydd Cyfleoedd Ieuenctid yn y Gymuned yn gyfrifol am ardal benodol yn Rhondda Cynon Taf ac yn arwain y gwaith o gydgysylltu holl raglenni gweithgareddau YEPS gan gynnwys: 

  • Gweithgareddau gwaith ieuenctid mewn ysgolion 
  • Rhaglenni Pontio 
  • Rhaglenni gwaith ieuenctid yn y gymuned 
  • Clwb ieuenctid a darpariaeth ar y strydoedd 
  • Club Fusion 
  • Rhaglen o weithgareddau a theithiau yn ystod gwyliau'r ysgol  
  • Y Fan Ieuenctid Symudol 

Swyddogion Iechyd Meddwl a Lles 

  • 5 swyddog yn y gymuned 
  • Darparu cymorth un-wrth-un i bobl ifainc ag anghenion iechyd meddwl 
  • Mae cymorth yn cael ei ddarparu mewn ysgolion, lleoliadau yn y gymuned, sesiynau ar y strydoedd a thrwy ymweld â chartrefi'r bobl ifainc 
  • Darparu hyfforddiant i bobl ifainc fel eu bod nhw'n hyddysg am faterion iechyd meddwl 
  • Darparu prosiectau yn y gymuned. Mae prosiectau'n amrywio ar sail anghenion y gymuned 
  • Cynorthwyo fforymau ieuenctid lleol â materion iechyd meddwl gan gynnwys cyfleoedd i hyfforddi ac i ddatblygu prosiectau 
  • Darparu gwybodaeth ar-lein i roi cymorth i bobl 

Gweithwyr Cymorth Pontio  

Mae Gweithwyr Cymorth Pontio yn cefnogi pobl ifainc rhwng 26 a 25 oed i oresgyn rhestrau maen nhw' eu hwynebu er mwyn cael mynediad at addysg, cyflogaeth a chyfleoedd hyfforddiant neu bobl ifainc sy'n wynebu risg o, neu sydd eisoes wedi, dad-gysylltu â'u haddysg, cyflogaeth neu hyfforddiant  

  • 4 swyddog yn y gymuned 
  • Darparu cymorth wedi’i deilwra i bobl ifainc rhwng 16 a 25 oed sydd mewn perygl o droi eu cefnau ar addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, neu sydd eisoes wedi gwneud hynny 
  • Darparu cymorth un-wrth-un a chymorth grŵp ar gyfer hyfforddiant teithio 
  • Darparu gwybodaeth a chanllawiau cyn digwyddiad er mwyn cymell a hybu hunan-hyder. 
  • Cyflwyno prosiectau sgiliau cyflogadwyedd fel ysgrifennu CV, technegau cyfweld, gweithio'n rhan o garfan, ac ati 
  • Bod yn gefn i bobl ifainc er mwyn iddyn nhw oresgyn y rhwystrau maen nhw'n eu hwynebu fel bod modd iddyn nhw fanteisio ar gyfleoedd addysg, cyflogaeth a hyfforddiant 

Swyddog Ieuenctid - Digartrefedd 

Bydd Swyddog Ieuenctid - Digartrefedd yn darparu cymorth un-wrth-un i bobl ifainc sy'n wynebu'r risg o ddod yn ddigartref. Bydd swyddogion yn darparu'n cymorth yma mewn ysgolion, yn y gymuned, ar y stryd ac mewn ymweliadau â chartref yr unigolyn dan sylw. Gall y cymorth yma gynnwys hyfforddi pobl ifainc, eu haddysgu am ddigartrefedd a darparu prosiectau mewn ysgolion i wella sgiliau byw'n annibynnol pobl ifainc. Mae ymyriadau trwy gymorth wedi'i dargedu'n gynnar yn cynnwys addysgu pobl ifainc, eu teuluoedd ac asiantaethau eraill, am wir effeithiau digartrefedd ymhlith pobl ifainc, ac i roi gwybodaeth a chyngor

Swyddog Addysg Ieuenctid – Digartrefedd 

Bydd Swyddog Addysg Ieuenctid – Digartrefedd yn datblygu pecyn cymorth sgiliau byw'n annibynnol a'i ddarparu i bobl ifainc er mwyn eu galluogi i fyw'n annibynnol. Mae'r cymorth yma ar gael i bobl ifainc rhwng 16 a 25 oed sy'n wynebu'r risg o ddod yn ddigartref ac mae pecynnau ymyrraeth gynnar ar gael i bobl ifainc sy'n arddangos rhai ffactorau risg. Mae hyn yn cynnwys: 

  • 1 swyddog yn y gymuned 
  • Darparu cymorth un-wrth-un i bobl ifainc rhwng 16 a 25 oed sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. 
  • Mae cymorth yn cael ei ddarparu mewn ysgolion, lleoliadau yn y gymuned, sesiynau ar y strydoedd a thrwy ymweld â chartrefi'r bobl ifainc 
  • Darparu hyfforddiant i bobl ifainc i'w haddysgu am faterion digartrefedd. 
  • Darparu prosiectau yn y gymuned ac mewn ysgolion i wella sgiliau pobl ifainc i fyw'n annibynnol 
  • Darparu ymyriadau trwy gymorth wedi'i dargedu'n gynnar. Mae'r cymorth yma'n cynnwys helpu i addysgu pobl ifainc, eu teuluoedd ac asiantaethau eraill, am wir effeithiau digartrefedd ymhlith pobl ifainc, ac i roi gwybodaeth a chyngor. 

Swyddog Datblygu Digidol 

Mae'r Swyddog Datblygu Digidol yn gyfrifol am y meysydd canlynol sy'n berthnasol i bobl ifainc rhwng 11 a 25 oed: 

  • Yn gyfrifol am wefan YEPS www.yeps.wales gan ddarparu gwybodaeth o safon i bobl ifainc ar nifer o bynciau a'r system cadw lle ar-lein ar gyfer gweithgareddau YEPS  
  • Gofalu am lwyfannau cyfryngau cymdeithasol YEPS – Facebook / Instagram / YouTube gan roi gwybod i'r cyhoedd am holl weithgareddau / cyfleoedd YEPS. 
  • Yn gyfrifol am ap YEPS – yn dod yn fuan! 
  • Edrych ar gyfleoedd creadigol newydd i ennyn diddordeb pobl ifainc 
  • Gweithio gyda phartneriaid i rannu gwybodaeth allweddol ar gyfer gwasanaethau i bobl ifainc 

Swyddog Cyfathrebu a Hawliau 

Mae'r Swyddog Cyfathrebu a Hawliau yn gyfrifol am y meysydd canlynol sy'n berthnasol i bobl ifainc rhwng 11 a 25 oed: 

  • Rhedeg ein rhaglen Golygyddion Ieuenctid sy'n hyfforddi pobl ifainc i ffilmio cipolwg o'n gweithgareddau/arlwy ieuenctid. Hyrwyddo'r gwaith cadarnhaol y mae pobl ifainc yn ei wneud yn RhCT  
  • Trafod â RhCT/ysgolion/grwpiau yn y gymuned er mwyn cynnal Fforwm Ieuenctid Sirol RhCT 
  • Cynorthwyo â datblygiad Aelod Seneddol Ieuenctid RhCT 
  • Cynorthwyo â chyflwyniad a chanfyddiadau'r ymgyrch 'Gwnewch eich Marc' 
  • Darparu cyfleoedd i bobl ifainc fod yn effro i'w hawliau 
  • Cynnal rhaglen arolygwyr ieuenctid i sicrhau bod darpariaeth yn cael ei chymeradwyo/yn diwallu'r safonau ar gyfer pobl ifainc/darparu argymhellion ar gyfer newid. 

Swyddogion Cymorth Ymgysylltu (SCY) 

Ryan Strong yw rheolwr llinell y swyddogion yma sy'n gweithio rhan amser o leiaf dwy noswaith yr wythnos. Mae'r swyddogion yma'n gweithio ledled RhCT yn cefnogi ein staff llawn amser i roi darpariaeth y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid ar waith gan gynnwys: 

  • Ymgysylltu â phobl ifainc 11-25 oed
  • Staff rhan amser sydd fel arfer yn gweithio gyda'r hwyr 
  • Gweithio ledled RhCT. 
  • Rhoi cymorth i staff amser llawn ar sut i ddarparu gwasanaethau YEPS 
  • Ymwneud â phob math o ddarpariaeth gan gynnwys clybiau ieuenctid, sesiynau ar y strydoedd, teithiau, gweithgareddau, a phrosiectau 
  • Gallu arwain ar sesiynau pryderon gyda phobl ifainc sydd wedi'u nodi 
  • Darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i bobl ifainc yn ystod gwaith wyneb yn wyneb