Nod y Gwasanaeth Iaith Gynnar yng Nghyngor RhCT (Siarad a Chwarae) yw rhoi'r offer sydd eu hangen ar rieni/gwarcheidwaid i helpu eu plant i gyrraedd eu cerrig milltir iaith datblygiadol. Mae arbenigwyr wrth law i sicrhau bod cefnogaeth ar gael i bob plentyn ar ei siwrnai ieithyddol.
Mae'r garfan Siarad a Chwarae yn gweithio gyda phob teulu yn RhCT sydd â phlant rhwng 0 a 4 oed gan gynnig ystod o gefnogaeth o ran lleferydd, iaith a chyfathrebu mewn ffordd sy'n gweithio i chi - ar-lein neu wyneb yn wyneb.
Gall hyn gynnwys pecynnau cymorth pwrpasol un-wrth-un yn eich cartref neu'n rhithwir ac ystod eang o raglenni iaith gynnar i helpu i ddatblygu datblygiad iaith eich plentyn. Rydyn ni yma i'ch helpu chi i gefnogi sgiliau siarad eich plentyn.