Carfan Cysoni Rhaglenni

Y Garfan Cysoni Rhaglenni yw arweinydd strategol materion sy'n ymwneud â rhoi'r Grant Cymunedau a Phlant ar waith a gwneud hynny'n unol â thelerau'r grant. Mae'r Garfan Cysoni Rhaglenni wedi'i sefydlu o'r tair carfan ganlynol: 

Y Garfan Buddsoddi Hyblyg sy'n defnyddio model comisiynu sy'n canolbwyntio ar ddeilliannau er mwyn caffael gwasanaethau ymyrraeth gynnar a gwasanaethau atal gan fanteisio ar gyllid gan Lywodraeth Cymru, a hynny mewn modd hyblyg yn rhan o'r agenda cysoni rhaglenni. 

Mae'r Garfan Buddsoddi Hyblyg yn canolbwyntio ar ddatblygu manyleb contract ac agweddau caffael a chydymffurfio y cylch comisiynu, gan weithio'n agos â charfan Cynllunio a Thrawsnewid Gwasanaethau y Gwasanaeth Llesiant a Chydnerthedd y Gymuned sy'n ymgymryd â dyletswyddau gwerthuso a rheoli cyrhaeddiad. Helen Fisher-Holland, Rheolwr Cydymffurfio a Chomisiynu sy'n rheoli'r garfan. 

Mae'r Garfan Buddsoddi Hyblyg yn cynnwys nifer o weithwyr proffesiynol amlasiantaeth sy'n gorchwylio'r broses  o ddyrannu lleoliadau plant wedi'u hariannu a darparu strategaethau ymyrryd i blant, pobl ifainc, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol gofal plant. Bydd y strategaethau ymyrryd yma'n gwella ansawdd eu bywydau, dysgu a lles ac yn sicrhau eu bod nhw'n cyflawni eu potensial. Mae'r garfan yn cynnwys Swyddog Lleoli Gofal Plant, Therapydd Iaith a Lleferydd, Therapydd Galwedigaethol, Seicolegydd Addysg, Ymwelwyr Iechyd Arbenigol, Bydwragedd a Nyrsys Meithrin Cymunedol. Mandy Perry, y Rheolwr Cysoni Rhaglenni yw rheolwr llinell y garfan. 

Mae'r Garfan Sicrwydd Ansawdd yn goruchwylio Fframwaith Sicrhau Ansawdd Gofal Plant y Gwasanaeth i sicrhau bod y ddarpariaeth gofal plant Dechrau'n Deg gan ddarparwyr allanol sydd wedi'u comisiynu o ansawdd uchel ym mhob maes. Mae'r garfan yn darparu cymorth arbenigol i'r Garfan Buddsoddi Hyblyg o ran asesu ansawdd y ddarpariaeth gofal plant i lywio gwaith comisiynu gwasanaethau gofal plant Dechrau'n Deg. Mae'r garfan hefyd yn paratoi a chyflwyno pecynnau hyfforddi i gefnogi DPP gweithlu Gofal Plant Dechrau'n Deg. Joanne Jervis, yr Uwch Swyddog Sicrwydd Ansawdd yw rheolwr llinell y garfan. 

Mandy Perry, Rheolwr Cysoni Rhaglenni sy'n rheoli'r gwasanaeth.