Mae'r garfan Cynllunio a Thrawsnewid Gwasanaethau yn gyfrifol am nifer o brif swyddogaethau y Gwasanaeth Llesiant a Chydnerthedd y Gymuned. Mae'r cyfrifoldebau yma'n cynnwys goruchwylio'r broses o reoli systemau gwybodaeth y gwasanaeth a'u monitro ac adrodd ar unrhyw broblemau; cynllunio a thrawsnewid gwasanaethau gan ddefnyddio gwybodaeth ar sail data ac ymyrryd er mwyn gwasanaethu ein cymunedau a datblygu technegau proffilio er mwyn sicrhau bod ymyriadau cynnar ac ethos atal y gwasanaeth yn bellgyrhaeddol.
Mae'r garfan hefyd yn gyfrifol am hwyluso'r broses o gynnal anghenion hyfforddiant aelodau staff ar hyd y gwasanaeth. Mae'r garfan hefyd yn ymgymryd â gwaith cynnal y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, gwasanaeth cyhoeddus hanfodol sy'n ymdrin ag ymholiadau am ystod o wasanaethau sydd ar gael i drigolion Rhondda Cynon Taf.
Gwybodaeth Reoli a Systemau - Rheoli'r broses o gasglu a choladu data rheoli, cynnal gwiriadau sicrwydd ansawdd mewn perthynas â Gwasanaeth Llesiant a Chydnerthedd y Gymuned a hyrwyddo defnydd cyson o system Capita One/System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru.
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd - Rheoli'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd sy'n cynnig gwybodaeth a chanllawiau am ddim i rieni, cynhalwyr a gwarcheidwaid yn RhCT yn ogystal â rheoli gwefan y Gwasanaeth Llesiant a Chydnerthedd y Gymuned a chronfa ddata Dewis Cymru.
Hyfforddiant y Gwasanaeth Llesiant a Chydnerthedd y Gymuned - Nodi, comisiynu a threfnu sesiynau hyfforddiant ar hyd y Gwasanaeth Llesiant a Chydnerthedd y Gymuned er mwyn bodloni anghenion y gwasanaeth.
Proffilio grwpiau agored i niwed - Mae proffilio grwpiau agored i niwed yn defnyddio ystod eang o ddata cyhoeddus a dangosyddion sy'n ganlyniad gwaith ymchwil trwyadl sy'n gadael unigolyn yn agored i niwed mewn unrhyw ffordd, e.e. dod yn ddigartref, peidio â chyrraedd cerrig milltir datblygu allweddol neu diffyg ymgysylltu ag addysg. Mae proffilio grwpiau agored i niwed yn caniatáu creu model data cynaliadwy er mwyn adnabod ardaloedd sydd mewn angen ac arwain gwaith cynllunio’r gwasanaethau.
Mapio'r Gwasanaeth - Ymchwilio i wasanaethau yn Rhondda Cynon Taf a'u mapio er mwyn deall lle mae bylchau yn y gwasanaeth a defnyddio ystod eang o ddata gwerthuso cenedlaethol er mwyn dylanwadu ar y broses o wella gwasanaethau cyfredol a newydd.