Mae’ch hawl chi i breifatrwydd yn bwysig iawn inni. Pan fyddwch chi’n dewis rhoi gwybodaeth amdanoch chi’ch hun inni, rydych chi’n ymddiried y byddwn ni’n gweithredu mewn ffordd gyfrifol, ac rydyn ni’n cydnabod hynny. Mae'r canlynol yn cynnwys yr arferion casglu gwybodaeth, prosesu a storio ar gyfer y wefan yma. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.
Sut rydyn ni'n amddiffyn eich gwybodaeth
Mae'r holl wybodaeth sydd wedi cael ei mewnbynnu i'n e-Ffurflenni yn cael ei throsglwyddo i'n gweinyddion. Bydd yr wybodaeth yn cael ei storio yn ein System Rheoli Perthynas Cwsmeriaid a/neu yn cael ei hanfon at adrannau gwasanaeth perthnasol.
Cysylltiadau Allanol
Efallai bydd y wefan yma'n cynnwys cysylltiadau i wefannau eraill, adrannau eraill y Llywodraeth a gwefannau sefydliadau eraill, fel ei gilydd. Mae'r polisi preifatrwydd yma'n berthnasol i'n gwefan yn unig, ac felly byddwch yn effro pan fyddwch chi'n symud i wefan arall. Darllenwch ddatganiad preifatrwydd unrhyw wefan sy'n casglu gwybodaeth bersonol.
Newidiadau i'r polisi preifatrwydd yma
Os bydd y polisi preifatrwydd yma'n newid mewn unrhyw ffordd, byddwn ni'n rhoi'r fersiwn diweddaraf ar y dudalen yma. Trwy adolygu'r dudalen yma'n rheolaidd, byddwch chi'n gwybod, bob tro, am yr wybodaeth a gasglwn, sut byddwn ni'n ei defnyddio ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y byddwn ni'n ei rhannu gyda phartïon eraill.
Cysylltwch â Ni
Hoffech chi eglurhad neu wybodaeth ychwanegol ynglŷn â'r manylion sydd wedi'u nodi yn y polisi preifatrwydd yma? Croeso ichi gysylltu â’r Gwasanaethau i Gwsmeriaid, ac fe fyddwn ni'n hapus i ymdrin â'ch cais.