Mae'r Garfan Datblygu Chwarae yn comisiynu darpariaeth chwarae yn ystod tymor yr ysgol ac yn ystod y gwyliau ledled y Fwrdeistref Sirol gan sefydliadau ar ran y Cyngor. Mae'r ddarpariaeth yma i blant a phobl ifainc rhwng 5 ac 14 oed.
Gail Beynon yw rheolwr y gwasanaeth yma ac mae'n rhan o'r Gwasanaeth Llesiant a Chydnerthedd y Gymuned ehangach. Isod rydyn ni wedi crynhoi meysydd allweddol y Gwasanaeth Chwarae:
Chwarae Mynediad Agored: Darpariaeth chwarae am ddim ar ran y Cyngor ledled yr ardal leol yn ystod tymor yr ysgol a'r gwyliau.
Mae amserlenni'r cynllun chwarae ar gael yma. (INSERT LINK)
Rhaglenni Chwarae i Deuluoedd: Diben y Rhaglen Chwarae i Deuluoedd yw rhoi cyfle i deuluoedd ymgysylltu â gweithgareddau amrywiol i'r teulu cyfan. Mae thema wahanol bob wythnos dros y pedair wythnos. 'Parti' yw thema'r wythnos olaf.
Rhaid i deuluoedd gwblhau ffurflen gofrestru. Rydyn ni hefyd yn derbyn ffurflenni cofrestru gan y Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth ar ran y teulu.
Prosiect Cefnogaeth Lles Plant: Bwriad y Prosiect Cymorth Lles Plant yw cynnig cefnogaeth gadarnhaol o ran lles i blant rhwng 8 ac 11 oed. Mae'r prosiect yn defnyddio gweithgareddau chwarae i helpu plant i wella eu cydnerthedd, wrth adeiladu eu hyder a'u helpu i ddeall a rheoli eu hemosiynau.
Mae modd i blant sy'n rhan o deulu y mae'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth yn gweithio gyda fe gael eu hatgyfeirio at GofaliChwarae.
GofaliChwarae: Mae gwasanaeth GofaliChwarae ar gael i blant a phobl ifainc rhwng 5 ac 14 oed sydd angen cymorth ychwanegol er mwyn cael mynediad at eu cynllun chwarae lleol. Dyma 3 ffordd o gael mynediad at y gwasanaeth:
- Mae modd i blant sydd eisoes yn hysbys i'r Garfan Plant Anabl gael eu cyfeirio at GofaliChwarae
- Mae modd i blant sydd eisoes yn hysbys i'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth gael eu cyfeirio at GofaliChwarae
- Mae modd i'r sawl sy'n darparu'r cyfleoedd chwarae wneud cais i blentyn gael ei oruchwylio unrhyw bryd yn ystod ei amser yn rhan o gynllun chwarae.