Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn cynnig gwasanaeth gwybodaeth a chyfeirio am ddim i bob rhiant, cynhaliwr a gwarcheidwad yn Rhondda Cynon Taf. 

Mae'r gwasanaeth hefyd yn gyfrifol am ddiweddaru a chynnal cyfeiriadur DEWIS ar gyfer Rhondda Cynon Taf ac yn gweithio gyda darparwyr i sicrhau bod eu gwybodaeth yn gywir ac yn gyfoes. 

I aelodau'r cyhoedd, mae gan y gwasanaeth wybodaeth ddefnyddiol a chyfoes ar ystod eang o faterion megis: 

  • Archwilio opsiynau gofal plant 
  • Achlysuron a gweithgareddau 
  • Cynlluniau chwarae yn ystod y gwyliau 
  • Cyngor a chanllawiau i rieni newydd 
  • Grwpiau i fabanod 
  • Gweithgareddau allgyrsiol i blant ysgol 
  • Gwybodaeth ar gyfer y rhai sy'n ystyried dilyn gyrfa mewn gofal plant neu weithio gyda phlant a phobl ifainc.