Gall fod yn anodd cysylltu â phobl ifainc yn eu harddegau. Wrth i blant fynd yn hŷn maen nhw'n dod yn fwy annibynnol sy'n rhan arferol o fywyd. Mae mynd i'w hachlysuron chwaraeon neu berfformiadau yn ffordd wych o ddangos eich cefnogaeth iddyn nhw. Fodd bynnag, rydyn ni wedi casglu rhai syniadau am beth arall mae modd i chi ei wneud gyda phobl ifainc yn eu harddegau yn RhCT.