
Mae modd i wirfoddoli roi boddhad mawr i oedolion a phobl ifainc yn eu harddegau. Mae gwybod eich bod chi wedi helpu eraill yn gallu teimlo'n dda, sy'n wych i'ch iechyd meddwl. Mae hefyd modd iddo fe fod yn dda o ran eich iechyd corfforol a helpu i wella sgiliau cymdeithasol. Mae gwirfoddoli'n edrych yn wych ar CV neu gais am swydd, gan ei fod e'n dangos penderfyniad a'r parodrwydd i weithio.
Mae modd i chi ddarganfod mwy am hawliau gwirfoddolwyr a phryd y mae modd i chi wirfoddoli ar wefan gov.uk.
Am wybodaeth ar sut i wirfoddoli'n ddiogel, ewch i wefan Volunteering Matters.
Mae gan Gyrfa Cymru gyngor gwych ar sut i ddod yn wirfoddolwr a'r sefydliadau sydd o bosibl yn mynd i fod â chyfle gwirfoddoli i chi.
Mae llawer o gyfleoedd i wirfoddoli yn RhCT:
- Mae'r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid yn ymgysylltu â phobl ifanc 11–25 oed yn RhCT i wella eu cydnerthedd a'u grymuso i gyfrannu at y cymunedau lle maen nhw'n byw. Mae modd i chi gael gwybodaeth am eu cyfleoedd gwirfoddoli ar eu gwefan.
- Mae Chwaraeon RCT yn hysbysebu cyfleoedd gwirfoddoli ar eu gwefan nhw.
- Mae modd i Gymunedau am Waith roi cymorth i chi i fanteisio ar leoliadau gwirfoddoli sy'n addas i chi.