Mae'n gallu bod yn frawychus meddwl am eich plentyn yn ei arddegau yn defnyddio cyllyll miniog neu sosbenni poeth ond mae dysgu i goginio yn dod â llawer o fanteision i chi a'ch plentyn. Er enghraifft:
- Mae'n ei ddysgu am fwyta'n iach. Mae deiet cytbwys yn arbennig o bwysig i iechyd corfforol a meddyliol pobl ifainc yn eu harddegau.
- Mae'n rhoi'r cyfle i chi dreulio amser gwerthfawr gyda'ch gilydd. Mae modd iddo fe roi'r cyfle i chi drafod sut mae e/hi'n teimlo neu sut mae'r diwrnod neu'r wythnos wedi bod iddo/i.
- Mae'n rhoi'r sgiliau y bydd eu hangen arno/i pan fydd yn gadael y cartref. Fe ddaw amser pan fydd angen i'ch plentyn yn ei arddegau chi goginio drosto'i hun. Mae modd i chi roi'r sgiliau a'r wybodaeth iddo/i goginio'n ddiogel ac yn iach.
- Mae'n rhoi hwb i'w hyder. Bydd gan bobl ifainc yn eu harddegau fwy o ffydd ynddyn nhw'u hunain os ydyn nhw'n gwybod eu bod nhw'n gallu paratoi neu goginio pryd o fwyd iddyn nhw'u hunain (neu eraill!). Mae gweld y canlyniadau'n helpu i greu ymdeimlad o gyflawniad neu falchder hyd yn oed
Cychwyn arni
- Gofynnwch iddyn nhw a ydyn nhw am fynd i siopa am fwyd i'r teulu. Mae modd i hyn eu dysgu nhw am gynhwysion a'r hyn sydd ei angen arnoch chi i goginio eu hoff brydau bwyd. Mae modd i chi ddangos iddyn nhw sut i adnabod y cynhwysion iachach a beth i'w osgoi.
- Dechreuwch yn syml. Ceisiwch ennyn eu diddordeb nhw heb orlethu. Er enghraifft, dechreuwch gyda phethau fel plicio neu dorri llysiau.
- Dewiswch eu hoff bryd o fwyd. Bydd yn fwy diddorol iddyn nhw baratoi'r pethau maen nhw wrth eu bodd yn eu bwyta.
- Gwnewch e'n rheolaidd. Mae modd i chi ei wneud yn beth wythnosol, pythefnosol neu hyd yn oed bob mis i ddechrau.
Unwaith y byddwch chi'n barod, dewiswch rysáit ac ewch ati! Dyma rai o'n syniadau ni am ryseitiau i'ch hysbrydoli chi.
Stiw Bîff Tun
Cwcis
Pizza Tortilla
Cawl llysiau
Brechdan ham a chaws wedi'i dostio
Hufen iâ cartref
Cynhwysion:
- 1400 gram o datws
- 2 gan o fîff tun
- 1kg o lysiau cymysg wedi'u rhewi, moron, pys, swedsen a nionyn
- Dŵr
- Stoc Cig Eidion
- Halen a phupur i roi blas
Offer:
- Sosban fawr
- Cyllell
- Bwrdd torri
- Llwy
- Powlenni
Cyfarwyddiadau:
- I ddechrau, golcha dy ddwylo'n drylwyr gyda sebon am 20 eiliad
- Plicia a thorri'r tatws yn ddarnau bach
- Berwa'r tatws mewn sosban nes eu bod nhw'n feddal
- Ychwanega'r llysiau wedi'u rhewi at y tatws, ychwanega mwy o ddŵr os oes angen
- Gad i fudferwi nes bod y llysiau wedi'u coginio
- Torra'r bîff tun yn ddarnau
- Ychwanega'r bîff tun a'r stoc cig eidion i'r sosban a'i adael i goginio nes bod y bîff tun yn feddal
- Ychwanega halen a phupur os oes angen
- Rho'r cawl mewn powlenni a mwynha!
Cynhwysion:
- 100 gram o fenyn heb halen ar dymheredd ystafell
- 100 gram o siwgr mân euraidd
- 1 wy maint canolig wedi'i guro ychydig
- 1 llwy de o rin fanila
- 275 gram o flawd plaen
- 200 gram o siwgr eisin
- 3-4 llwy fwrdd o ddŵr
- 2-3 diferyn o hylif lliwio bwyd
- Ysgeintiadau melys (sprinkles)
Offer:
- Ffwrn (gwna'n siŵr dy fod ti'n cael help gan oedolyn i ddefnyddio'r ffwrn)
- Hambwrdd pobi a rac weiren i oeri
- Papur gwrthsaim
- Rholbren
Cyfarwyddiadau:
- Cynhesa'r ffwrn hyd at 190C/170C Fan/Gas 5. Leinia hambwrdd pobi gyda phapur gwrthsaim
- Cymysga'r menyn a'r siwgr gyda'i gilydd nes eu bod nhw wedi'u cymysgu
- Cura'r wy ac ychwanega'r rhin fanila, ychydig ar y tro, nes eu bod wedi cymysgu'n dda
- Yna, cymysga'r blawd a dod â'r gymysgedd at ei gilydd i ffurfio toes
- Rholia'r toes allan ar ford sydd ag ychydig o flawd ysgafn i drwch o 1 cm/½ modfedd
- Gan ddefnyddio'r torwyr bisgedi, torra'r bisgedi o'r toes a'u gosod yn ofalus ar yr hambwrdd
- Poba'r bisgedi am 8-10 munud, neu nes eu bod nhw'n frown golau mewn lliw. Gwna'n siŵr dy fod ti'n cael help gan oedolyn
- Rho'r bisgedi i un ochr i galedu am 2 funud, yna rho nhw ar y rhac weiren i oeri
- Ar gyfer yr eisin, hidla'r siwgr eisin i mewn i bowlen gymysgu fawr ac ychwanega ddigon o ddŵr a'i gymysgu nes bod gen ti gymysgedd llyfn. Ychwanega'r lliw bwyd a'i gymysgu
- Ar ôl i'r bisgedi bach oeri, mae modd i ti eu haddurno.
Cynhwysion:
- Wrap tortilla
- Stwnsh tomato
- Ham/Cyw iâr
- India-corn
- Puprau
- Caws wedi gratio
Adnoddau:
- Ffwrn
- Tun pobi
- Bwrdd torri
- Menig ffwrn
- Cyllyll
- Llwy
- Powlenni
- Platiau
Cyfarwyddiadau:
- I ddechrau, golchwch eich dwylo'n drylwyr gyda sebon am 20 eiliad.
- Cynheswch y ffwrn i 170 gradd.
- Rhowch y tortilla ar y tun pobi a gwasgu stwnsh tomato arni hi i orchuddio'r gwaelod. Mae modd i chi ddefnyddio cefn llwy i'w ledaenu'n gyson.
- Nesaf, ychwanegwch eich hoff gynhwysion unrhyw le. Beth am wneud wyneb doniol arni?
- Gwasgarwch ychydig o gaws wedi gratio ar ei ben.
- Yn ofalus, rhowch eich pizza yn y ffwrn am 10–12 munud.
- Ar ôl coginio, defnyddiwch fenig popty i dynnu'ch pizza o'r popty a gadael iddo oeri.
- Torrwch eich pizza a mwyhewch!
Cynhwysion:
- Tatws gwyn
- Moron
- Seleri
- Garlleg
- Winwns
- Stoc llysiau (2)
- Dŵr (1½ peint)
- Olew
Adnoddau:
- Sosban
- Padell ffrio
- Bwrdd torri
- Cyllell
- Peiriant blendio
Cyfarwyddiadau:
- I ddechrau, golchwch eich dwylo'n drylwyr gyda sebon am 20 eiliad.
- Pliciwch a thorri'r tatws yn ddarnau bach.
- Berwch nhw mewn sosban nes eu bod nhw'n feddal.
- Tra bod y tatws yn coginio, pliciwch a thorri'r moron, winwns, garlleg a seleri.
- Ffriwch nhw mewn ychydig bach o olew nes eu bod nhw'n feddal.
- Pan fydd y llysiau i gyd yn feddal, draeniwch y tatws, a chymysgwch nhw gyda'i gilydd yn y sosban.
- Ychwanegwch y stoc llysiau ac aros i'r dŵr ferwi eto.
- Symudwch y sosban o'r gwres ac ychwanegu tamaid bach o'r cymysgedd i'r peiriant blendio.
- Blendiwch nes ei fod e'n llyfn. Ychwanegwch at y sosban unwaith yn rhagor. Mae'n bosibl y bydd angen gwneud hyn sawl gwaith.
- Mae'n bosibl y bydd angen i chi gynhesu'r cawl unwaith eto.
- Rhowch y cawl mewn powlenni a mwynhewch!
Cynhwysion:
- Bara
- Menyn
- Ham
- Caws
- Tiwna
- Ffa pob
- Olew
Adnoddau:
- Bwrdd torri
- Cyllell
- Papur arian
- Plât
- Padell ffrio
Cyfarwyddiadau:
- I ddechrau, golchwch eich dwylo'n drylwyr gyda sebon am 20 eiliad.
- Cymerwch eich bara a rhowch haen denau o olew neu fenyn ar un ochr ac yna rhowch yr ochr yna ar ddarn o bapur arian.
- Rhowch y llenwad i mewn (menyn, caws, a ham).
- Rhowch y darn arall o fara ar ei ben cyn ei orchuddio â haen denau o olew neu fenyn a lapiwch y frechdan yn y papur arian.
- Cynheswch badell heb olew ynddi a choginio'r frechdan (sydd wedi'i lapio mewn papur arian) am 5 munud bob ochr.
- Mae modd i chi ddefnyddio unrhyw lenwad sydd at eich dant chi. Mwynhewch!
Cynhwysion:
- 1 cwpan o hufen trwchus
- 1½ llwy de o rin fanila
- 2 lwy fwrdd o siwgr
- Pinsiad o halen
- Blasau a thopins o'ch dewis
Adnoddau:
- Jar gwydr mawr gyda chaead sgriw arno
- Powlen
- Llwy neu chwisg
- Rhewgell
Cyfarwyddiadau:
- Ychwanegwch hufen, rhin fanila, siwgr a halen at y jar. Sgriwiwch y caead.
- Ysgwydwch nes bod y gymysgedd wedi trwchau. Dylai hyn gymryd tua 5 i 10 munud.
- Ychwanegwch flasau, megis jam, darnau bach o siocled, mintys, dafnau mân o losin, neu rawnfwyd.
- Rhowch y gymysgedd yn y rhewgell am tua 2 awr.