Mae chwarae gyda reis yn weithgaredd hyfryd a syml sy'n caniatáu i blant ddatblygu eu holl synhwyrau. Mae modd defnyddio reis mewn amrywiaeth o ffyrdd chwareus a llawn dychymyg i greu gweithgaredd sy'n ddiddorol a llawn hwyl.
Mae plant yn dysgu orau trwy brofiadau 'ymarferol'. Mae chwarae gyda reis yn weithgaredd hawdd i'w baratoi sy'n annog plant i ddefnyddio eu holl synhwyrau.
Mae chwarae gyda reis yn wych ar gyfer helpu i ddatblygu sgiliau echddygol manwl a chydsymud llaw a llygad. Mae llwyo, arllwys, codi'r grawn o reis a'i basio o un llaw i'r llall i gyd yn ffyrdd gwych i blant ddatblygu'r sgiliau yma mewn ffordd chwareus. Mae modd i chwarae gyda reis helpu i ddatblygu a gwella sgiliau iaith a chyfathrebu ac mae’n weithgaredd perffaith i gyflwyno geiriau newydd ac ehangu geirfa plant.
Drwy roi’r cyfle yma i blant archwilio, mae’n caniatáu iddyn nhw ddarganfod pethau newydd a chyffrous.
Mae chwarae gyda reis yn weithgaredd syml llawn hwyl i'r teulu cyfan.
Llenwch hambwrdd/cynhwysydd bas gyda reis wedi'i goginio neu wedi'i sychu. Dechreuwch ychwanegu rhai eitemau at y reis i roi rhagor o fuddion synhwyraidd.
Beth am guddio gwrthrychau yn y reis neu ychwanegu eitemau fel llwyau, sgwpiau, powlenni a chwpanau?
Mae modd i chi hefyd ychwanegu elfennau o chwarae dychmygu, trwy gynnwys teganau pobl ac anifeiliaid, e.e. - dinosoriaid, anifeiliaid fferm.
Disgrifiwch beth rydych chi a'ch plentyn yn ei wneud wrth i chi chwarae gyda'r reis - 'arllwys', 'llwyo', 'darganfod'.
Cadwch eich sylwadau yn fyr ac yna rhowch amser i'ch plentyn ymateb.
Ailadroddwch y geiriau maen nhw'n eu dweud ac ymestyn eu geirfa trwy ychwanegu geiriau eraill.
Cofiwch - dydy'r eitemau yma ddim yn deganau felly peidiwch â gadael eich plentyn ar ei ben ei hun heb oruchwyliaeth. Dyma weithgaredd llawn hwyl i chi a'ch plentyn fwynhau gyda'ch gilydd.