Mae'n hawdd gwneud potel synhwyraidd â llwch llachar gan ddefnyddio eitemau cartref wedi'u hailgylchu. I wneud y botel yn fwy diddorol i'ch plentyn beth am ychwanegu pethau maen nhw'n eu hoffi?
Er enghraifft, gallech chi ddefnyddio lliw bwyd glas a llwch llachar glas i greu cefnfor.
Bydd y gweithgaredd yma'n helpu i dawelu eich plentyn os yw wedi mynd yn ofidus neu'n cynhyrfu. Bydd canolbwyntio ar symudiad llonyddol y llwch llachar wrth ysgwyd neu droi'r botel yn ei ddwylo yn helpu eich plentyn.
Gweithgaredd
Dyma weithgaredd syml, rhad i chi ei wneud gartref.
Dyma beth fydd ei angen arnoch chi ar gyfer y gweithgaredd:
- Potel ddŵr blastig lân a gwag gyda'r label wedi'i thynnu
- Dŵr cynnes
- Llwch llachar
- Hylif lliwio bwyd
- Twmffat
- Olew coginio
Potel llwch llachar
- Rhowch ddŵr cynnes yn y botel wag nes ei fod tua thri chwarter yn llawn ac ychwanegwch ychydig ddiferion o olew.
- Yna, ychwanegwch ychydig ddiferion o liw bwyd ac ysgeintio'r llwch llachar i mewn.
- Rhowch y caead ar y botel ddŵr a'i ysgwyd i gymysgu'r cynhwysion.
- Unwaith y byddwch chi'n hapus gyda’i olwg, llenwch y botel â dŵr nes ei fod yn llawn dop. Rhowch y caead yn ôl ymlaen yn dynn!