Mae chwarae bwyd yn ffordd wych i blant archwilio'u synhwyrau. Mae modd i fwyd fod yn ffordd wych a diogel o archwilio gwead, blas ac arogl, a hynny drwy arbrofi a chwarae.
Mae plant yn archwilio gan ddefnyddio eu pum synnwyr - cyffwrdd, blasu, clywed, gweld ac arogli. Drwy ddefnyddio'r synhwyrau yma, maen nhw'n dysgu am y byd o'u cwmpas ac yn gwneud synnwyr o'r llu o bethau newydd maen nhw'n eu profi bob dydd.
Mae annog plant i archwilio’r gwahanol fwydydd yma yn brofiad synhwyraidd gwych sy'n gallu eu helpu i ddatblygu rheolaeth eu bysedd, ac mae modd i'r profiadau cynnar yma hefyd helpu i ddatblygu sgiliau iaith cynnar.
Wrth i blant chwarae mae modd i chi ddweud wrthyn nhw beth maen nhw'n ei wneud a chyflwyno geiriau gwneud fel 'gwasgu', 'sblash'. Mae hefyd yn gyfle gwych i ddysgu geiriau disgrifio gwahanol iddyn nhw fel 'meddal' a 'siglo'.
Mae plant yn dysgu trwy arbrofi a darganfod, felly mae'r math yma o chwarae yn ffordd berffaith i annog eich plentyn i archwilio gweadau newydd a thrin gwahanol ddeunyddiau gan ddefnyddio'u synnwyr cyffwrdd.
Gweithgaredd
Eisteddwch gyda'ch plentyn.
Gadewch i'ch plentyn archwilio'r bwyd - gwasgu, mathru, blasu.
Cofiwch ddisgrifio beth mae'ch plentyn yn ei wneud, beth rydych chi'n ei arogli, beth rydych chi'n ei weld a'i flasu. Bydd hyn yn helpu i ddatblygu ac ehangu geirfa'ch plentyn.
Syniadau ar gyfer chwarae bwyd:
- Pasta wedi'i goginio neu heb ei goginio
- Sbageti oer, wedi'i goginio
- Uwd
- Ffa Pob
- Banana
Er bod modd i bethau fynd yn anniben, ac mae temtasiwn weithiau i atal eich plentyn rhag chwarae gyda’i fwyd, bydd caniatáu i’ch plentyn chwarae gyda bwyd - gan wasgu, taenu a blasu wrth iddyn nhw wneud hynny - yn rhoi profiad synhwyraidd iddo sy’n ei helpu i ddysgu.