Y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid

Pwy ydyn ni?

Mae'r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS) yn darparu'r Gwasanaeth Ieuenctid statudol ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Caiff y gwasanaeth yma ei ddarparu gan weithlu o staff cymwys sy'n cynnwys gweithwyr yn yr ysgol, gweithwyr ieuenctid yn y gymuned, carfanau gwaith ieuenctid arbenigol a staff rhan-amser medrus. 

Beth rydyn ni'n ei gynnig? 

Mae YEPS yn cynnig mynediad i amrywiaeth o weithgareddau AM DDIM ar draws nifer o ysgolion a lleoliadau ieuenctid i bobl ifainc rhwng 11 a 25 oed. Mae'r rhain yn cynnwys gweithgareddau ar ôl ysgol a chlybiau ieuenctid. Ar hyn o bryd mae clybiau ieuenctid yn cael eu cynnal rhwng 6pm ac 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae modd i bobl ifainc gymryd rhan drwy weld gweithiwr YEPS mewn ysgolion, colegau, neu drwy fynd i'r wefan. Mae YEPS yn darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i bobl ifainc ar sail un wrth un (gwaith atgyfeirio) a/neu sesiynau grŵp. 

Dyma’r hyn mae YEPS yn ei gynnig: 

  • Gwaith ieuenctid yn yr ysgol 
  • Cymorth penodol i blant 16 oed a hŷn 
  • Ymyraethau Iechyd Meddwl a Lles 
  • Cyngor ac arweiniad ar ddigartrefedd 
  • Gwaith pontio Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant 
  • Sesiynau sy'n ymwneud â hawliau 
  • Gweithgareddau yn y gymuned gan gynnwys clybiau ieuenctid, fan ieuenctid symudol, sesiynau ar y stryd, teithiau gwyliau ysgol a sesiynau galw heibio yn y gymuned 

Cymorth ynghylch sut i gyfathrebu a chysylltu â'ch plentyn yn ei arddegau?

Mae modd i chi gael eich atgyfeirio am gymorth un wrth un mewn sawl ffordd wahanol:

 

  • Trwy eich ysgol. Trwy siarad ag aelod o staff
  • Trwy eich Gweithiwr Cymdeithasol
  • Trwy'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth
  • Trwy'r Gwasanaeth Mynychu'r Ysgol a Lles
  • Trwy'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Blant a Phobl Ifainc (CAMHS)
  • Mae modd i rieni a gwarcheidwaid wneud atgyfeiriad ar ran person ifanc
  • Mae modd hunan-atgyfeirio os ydych chi dros 18 oed

Mae nifer o'n hachlysuron yn y gymuned yn achlysuron galw heibio, felly mae croeso i chi alw heibio! Mae modd i chi hefyd gadw lle ar gyfer rhai o'n teithiau a gweithgareddau. Mae calendr gweithgareddau ar gael ar wefan neu ap y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid. Mae modd i chi ddod o hyd i ap y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid ar siop apiau Apple neu Play Store.

 

Beth fydd yn digwydd ar ôl i mi gael fy atgyfeirio?

Ar ôl i chi gael eich atgyfeirio, bydd eich achos chi'n cael ei drafod gan ein gweithwyr proffesiynol a byddwn ni'n penderfynu a oes modd i'r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid gynnig y cymorth cywir i chi ar yr adeg yma. Bydd eich atgyfeiriwr a'ch rhiant neu warcheidwad yn derbyn llythyr i roi gwybod i chi os yw eich cais am atgyfeiriad wedi'i dderbyn neu ei wrthod. Os ydych chi wedi dilyn y broses hunanatgyfeirio, dim ond chi fydd yn derbyn y llythyr yma. Bydd angen i'r person ifanc gytuno i'r atgyfeiriad.

Beth sy'n digwydd os yw fy nghais am atgyfeiriad yn cael ei dderbyn?

Ar ôl i chi gael gwybod bod eich atgyfeiriad wedi'i dderbyn, bydd gweithiwr achos yn cael ei benodi i chi. Bydd y person yma fel arfer yn cynnig cymorth i chi am 6–12 wythnos. Mae modd i'r cymorth gael ei ddarparu yn yr ysgol, yn y cartref neu yn y gymuned. Mae hyd yn oed modd cynnig y cymorth yma dros baned o de neu yn eich hoff siop goffi os mai dyna fyddai orau gyda chi.

Beth sy'n digwydd os byddaf i'n colli apwyntiadau?

Bydd angen i chi ymgysylltu â ni er mwyn i ni eich helpu chi. Os does dim modd i chi fynd i apwyntiad, bydd angen i chi roi gwybod i'ch gweithiwr achos fel bod modd iddyn nhw aildrefnu’r apwyntiad ar gyfer dyddiad arall. Os fyddwch chi ddim yn mynd i sawl apwyntiad, bydd eich atgyfeiriad yn dod i ben a bydd eich atgyfeiriwr a'ch rhiant neu warcheidwad yn derbyn llythyr i roi gwybod iddyn nhw.

Rydw i wedi derbyn cymorth gan y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid yn y gorffennol. Oes modd i mi gael fy atgyfeirio eto?

Mae'r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid yn cynnig cymorth ar gyfer ystod eang o faterion ac os oes angen cymorth gwahanol i'r hyn a gawsoch chi o'r blaen, bydd modd cyflwyno atgyfeiriad arall unrhyw bryd. Os oes angen cymorth arnoch chi ar gyfer yr un mater, bydd yn rhaid i chi aros 4 mis cyn y bydd atgyfeiriad arall yn cael ei ystyried.

Sut i gysylltu â ni

Ffôn: 01443 281436
E-bost: gyci@rctcbc.gov.uk
Gwefan: https://www.yeps.wales/cy/

Mae modd i chi hefyd gysylltu â ni ar ein cyfryngau cymdeithasol: