Pwy ydyn ni?
Rhaglen gan Lywodraeth Cymru ydy Dechrau'n Deg ar gyfer teuluoedd sydd â phlant dan 4 oed ac sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig.
Mae elfen gofal plant Dechrau’n Deg yn cynnig gofal plant rhan amser am ddim i deuluoedd sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig yng Nghymru pan fydd eu plant rhwng 2 a 3 oed.
Sut ydw i'n cael gwybod a ydw i'n gymwys ar gyfer Dechrau'n Deg?
Mae Gofal Plant Dechrau’n Deg yn seiliedig ar:
- ble rydych chi'n byw
- oed eich plentyn
Mae modd i chi wirio a yw eich cod post yn gymwys ar wefan Rhondda Cynon Taf:
Mae eich plentyn yn gymwys i ddechrau lleoliad a ariennir y tymor yn dilyn ei ben-blwydd yn ddwy oed.
Mae pen-blwydd y plentyn yn ddwy oed rhwng: | Mae'r plentyn yn gymwys i ddechrau: |
Medi - Rhagfyr |
Tymor Ionawr |
Ionawr – Mawrth |
Tymor Ebrill |
Ebrill - Awst |
Tymor Medi |
Mae’r peiriant gwirio cod post yn dweud fy mod i'n gymwys. Sut mae modd i fi fanteisio ar ofal plant a ariennir gan raglen Dechrau’n Deg?
Byddwn ni'n ysgrifennu at deuluoedd sy’n gymwys ar gyfer Dechrau’n Deg pan fydd gyda nhw blentyn sy'n troi’n 18 mis oed. Bydd y llythyr yn rhoi gwybod i chi a ydych chi'n gymwys ac yn eich gwahodd chi i wneud cais am leoliad a ariennir. Mae modd i chi gysylltu â'ch Ymwelydd Iechyd os nad ydych chi wedi derbyn llythyr. Os dydych chi mewn cysylltiad â'ch Ymwelydd Iechyd bellach, cysylltwch â ni.
Rydw i wedi dychwelyd fy ffurflen gais. Sut byddaf i'n cael gwybod eich bod chi wedi ei derbyn?
Bydd y rhiant/gwarcheidwad yn derbyn llythyr cadarnhau pan fydd y lleoliad wedi’i drefnu neu os nad yw’r plentyn yn gymwys am le wedi’i ariannu. Dydyn ni ddim yn anfon llythyrau cydnabod ar hyn o bryd.
Ble fydd lleoliad fy mhlentyn?
Bydd eich plentyn yn cael lleoliad mewn darpariaeth gofal plant gymeradwy o ansawdd uchel yn eich ardal leol. Bydd y lleoliad yn cael ei ddewis gan ein swyddogion ar sail nifer y lleoedd sydd ar gael. Does gan rieni/gwarcheidwaid ddim opsiwn i ddewis y ddarpariaeth sydd orau ganddyn nhw ar hyn o bryd.
Hoffwn i fy mhlentyn fynd i ysgol cyfrwng Cymraeg. Oes modd i ni gael mynediad i ddarpariaeth Dechrau'n Deg cyfrwng Cymraeg?
Oes, mae gyda ni ddarpariaethau cyfrwng Cymraeg ledled Rhondda Cynon Taf. Mae modd i chi nodi'ch dewis iaith ar y ffurflen gais.
Rydw i wedi symud i ardal Dechrau'n Deg ac mae fy mhlentyn eisoes yn 2 flwydd oed. Sut mae modd gwneud cais?
Bydd eich ymwelydd iechyd yn rhoi'ch manylion i ni. Unwaith y bydd y rhain yn dod i law, byddwn ni'n cysylltu â chi i roi gwybod a ydych chi'n gymwys ac i'ch gwahodd i wneud cais am leoliad a ariennir.
Faint o oriau mae Dechrau'n Deg yn eu hariannu?
Mae Dechrau'n Deg yn ariannu 2.5 awr y dydd, 5 diwrnod yr wythnos, yn ystod tymor yr ysgol yn unig.
Pryd bydd lleoliad Dechrau'n Deg fy mhlentyn yn dod i ben?
Bydd lleoliad eich plentyn yn dod i ben pan fydd yn gymwys am leoliad addysg, sy'n golygu y bydd modd i'ch plentyn fynychu tan ddiwedd y tymor y mae'n troi'n dair oed.
Beth sy'n digwydd ar ôl i leoliad Dechrau'n Deg fy mhlentyn ddod i ben?
Mae modd i chi wneud cais am leoliad addysg cyn-feithrin neu feithrin i ddechrau'r tymor ar ôl pen-blwydd eich plentyn yn 3 oed. Rhaid cyflwyno'r cais yma drwy'r Awdurdod Lleol. Rhaid i chi gyflwyno'r cais yma ymlaen llaw.
Mae pen-blwydd y plentyn yn dair oed rhwng: | Dylech chi gyflwyno cais: | Mae'r plentyn yn gymwys i ddechrau: | Math o Gais: |
Medi - Rhagfyr |
Medi |
Ionawr |
Cyn-feithrin |
Ionawr – Mawrth |
Ionawr |
Ebrill |
Cyn-feithrin |
Ebrill - Awst |
Medi (cyn i'r plentyn droi'n 3 oed) |
Medi |
Meithrin |
Mae amserlenni llym ar gyfer cyflwyno cais. Ewch i wefan Rhondda Cynon Taf i gael gweld y dyddiadau ymgeisio presennol.
Os yw lleoliad addysg eich plentyn am 15 awr yr wythnos, mae'n bosibl y byddwch chi'n gymwys i wneud cais am 15 awr ychwanegol o ofal plant drwy’r Cynnig Gofal Plant 30 Awr.
Sut i gysylltu â ni
Ffôn: 01443 281437
E-bost: GofalPlantDechraunDeg@rctcbc.gov.uk