Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Pwy ydyn ni? 

Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn cynnig gwybodaeth, cyngor a gwasanaeth cyfeirio diduedd am ddim ar gyfer ystod o wasanaethau i blant, pobl ifainc a'u teuluoedd yn Rhondda Cynon Taf. 

Beth ydyn ni'n ei gynnig? 

Mae modd i'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd gynnig gwybodaeth i blant, pobl ifainc, teuluoedd, a gweithwyr proffesiynol. Byddwn ni'n trin eich cwestiynau â chyfrinachedd. 

Mae modd i ni gynnig esboniad i chi ar y gwahanol fathau o ddarpariaeth sydd ar gael a'ch cyfeirio chi at y ddarpariaeth sydd fwyaf addas i'ch anghenion. 

 Mae modd i chi weld y pynciau mwyaf cyffredin ar ein tudalen 'Chwilio am wybodaeth'.     

Pwy sy'n cael manteisio ar y gwasanaeth? 

Mae modd i unrhyw un fanteisio ar ein gwasanaeth. Does dim angen cael eich atgyfeirio na bodloni meini prawf cymhwyster. 

Sut i gysylltu â ni  

E-bost: GwasanaethGwybodaethiDeuluoedd@rctcbc.gov.uk 
Rhadffôn: 0800 180 4151
Rhadffôn ar ffonau symudol: 0300 111 4151
Facebook: RCT Family Information Service