Y Garfan Siarad a Chwarae

Pwy ydyn ni? 

Nod y Gwasanaeth Iaith Gynnar yng Nghyngor RhCT (Siarad a Chwarae) yw rhoi'r offer sydd eu hangen ar rieni/cynhalwyr/gwarcheidwaid i helpu eu plant i gyrraedd eu cerrig milltir iaith datblygiadol. Mae gyda ni arbenigwyr wrth law i sicrhau y bydd pob plentyn yn cael ei gefnogi trwy ei daith iaith. 

Beth rydyn ni'n ei gynnig? 

Mae'r garfan Siarad a Chwarae yn gweithio gyda phob teulu yn RhCT sydd â phlant rhwng 0 a 4 oed, gan gynnig ystod o gefnogaeth o ran lleferydd, iaith a chyfathrebu mewn ffordd sy'n gweithio i chi - ar-lein neu wyneb yn wyneb. 

Gall hyn gynnwys pecynnau cymorth pwrpasol un wrth un yn eich cartref neu'n rhithwir, ac ystod eang o raglenni iaith gynnar i helpu i ddatblygu datblygiad iaith eich plentyn. Rydyn ni yma i'ch helpu chi i gefnogi sgiliau siarad eich plentyn. 

Sut i gysylltu â ni 

Ffôn: 01443 281437 
E-bost: SiaradaChwarae@rctcbc.gov.uk

Er mwyn cadw'ch lle mewn grŵp, e-bostiwch y Garfan Siarad a Chwarae: SiaradaChwarae@rctcbc.gov.uk