Mae'r ganolfan wedi'i lleoli yn Nyffryn Taf, ac mae'n gartref i'r Garfan Datblygu Chwarae ar hyn o bryd. Mae Meithrinfa Oriau Dydd Little Inspirations a Chylch Meithrin / Dechrau'n Deg Rhydfelen yn ddau ddarparwr gofal plant preifat sydd hefyd wedi'u lleoli yn y ganolfan. Mae 29 o leoedd parcio ar gael ar y safle. Mae 2 o'r rhain ar gyfer pobl anabl ac mae 3 man gollwng ar gyfer y lleoliadau gofal plant. Mae gan yr adeilad unllawr fynediad i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio drwyddo draw.
Ystafell y Dderwen (The Oak Room) - ystafell fawr neu wedi'i hagor gydag Ystafell y Fesen)
- Mae lle i hyd at 50 o bobl. Mae modd addasu'r ystafell i weddu i anghenion penodol gwasanaeth, gan osod cadeiriau yn unig neu fyrddau a chadeiriau.
- Mae modd defnyddio hanner yr ystafell gyda drysau gwrthsain os oes angen.
- Mae sgrîn hybrid ar gael, sy'n ddelfrydol ar gyfer cyfarfodydd neu gyflwyniadau rhithwir
- Cysylltiad â rhyngrwyd Wi-Fi Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
- Cyfleusterau ystafell ymolchi ar wahân
- Hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn
- Dŵr poeth ar gael
- Taflunydd a sgrîn
- Siart droi a phennau
- Lloriau finyl
Ystafell y Fesen (The Acorn Room)
- Mae lle i hyd at 20 o bobl. Mae modd addasu'r ystafell i weddu i anghenion penodol gwasanaeth, gan osod cadeiriau yn unig neu fyrddau a chadeiriau.
- Cysylltiad â rhyngrwyd Wi-Fi Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
- Cyfleusterau ystafell ymolchi ar wahân
- Dŵr poeth ar gael
- Hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn
- Siart droi a phennau
- Lloriau finyl
Ystafell y Ddraenen Wen (The Hawthorn Room)
- Mae lle i hyd at 12 o bobl. Mae modd addasu'r ystafell i weddu i anghenion penodol gwasanaeth, gan osod cadeiriau yn unig neu fyrddau a chadeiriau.
- Mae sgrîn hybrid ar gael, sy'n ddelfrydol ar gyfer cyfarfodydd, cyfweliadau neu gyflwyniadau rhithwir
- Cysylltiad â rhyngrwyd Wi-Fi Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
- Siart droi a phennau
- Lloriau finyl
- Hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn
- Cyfleusterau cegin
Ystafell yr Eiddew (The Ivy Room)
- Ystafell gynadledda gyda lle i eistedd hyd at 10 o bobl
- Mae sgrîn hybrid ar gael, sy'n ddelfrydol ar gyfer cyfarfodydd, cyfweliadau neu gyflwyniadau rhithwir
- Cysylltiad â rhyngrwyd Wi-Fi Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
- Siart droi a phennau
- Lloriau carped
- Dŵr poeth ar gael
Ystafell y Sycamorwydd (The Sycamore Room)
- Lle i hyd at 8 o bobl i eistedd o amgylch bwrdd hirsgwar
- Mae sgrîn hybrid ar gael, sy'n ddelfrydol ar gyfer cyfarfodydd, cyfweliadau neu gyflwyniadau rhithwir
- Cysylltiad â rhyngrwyd Wi-Fi Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
- Siart droi a phennau
- Hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn
- Lloriau carped
Yr Ystafell Synhwyraidd
- Awyrgylch rhyngweithiol sy'n tawelu
- Yn ddelfrydol ar gyfer grwpiau bach neu ar gyfer rhyngweithio un i un
- Yn cynnig ystod o ysgogiadau sy’n fuddiol ar gyfer amrywiaeth o anghenion datblygiadol
- Hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn
Cysylltwch â ni: canolfaniblantrhydfelen@rctcbc.gov.uk