Mae'r ganolfan wedi'i lleoli yng Nghwm Cynon, ac ar hyn o bryd mae'n gartref i'r Garfan Teuluoedd Cydnerth, y Garfan Siarad a Chwarae, Gwasanaethau Cyswllt a lleoliad Dechrau'n Deg yr Awdurdod Lleol. Mae gan yr adeilad unllawr fynediad i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio drwyddo draw. Mae 50 o leoedd parcio ar y safle, ac mae 2 ohonyn nhw ar gyfer pobl anabl.
Ystafell y Masarn (The Maple Room)
- Mae lle i hyd at 20 o bobl. Mae modd addasu'r ystafell i weddu i anghenion penodol gwasanaeth, gan osod cadeiriau yn unig neu fyrddau a chadeiriau.
- Mae modd defnyddio hanner yr ystafell gyda drysau gwrthsain os oes angen.
- Mae sgrîn hybrid ar gael, sy'n ddelfrydol ar gyfer cyfarfodydd neu gyflwyniadau rhithwir.
- Cysylltiad â rhyngrwyd Wi-Fi Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
- Taflunydd a sgrîn
- Siart droi a phennau
- Dŵr poeth ar gael
- Lloriau finyl
- Mynediad i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn
- Cyfleusterau ystafell ymolchi ar wahân
Ystafell y Cedrwydd (The Cedar Room)
- Mae lle i hyd at 12 o bobl. Mae modd addasu'r ystafell i weddu i anghenion penodol gwasanaeth, gan osod cadeiriau yn unig neu fyrddau a chadeiriau.
- Sgrîn hybrid ar gael, sy'n ddelfrydol ar gyfer cyfarfodydd, cyfweliadau neu gyflwyniadau rhithwir
- Cysylltiad â rhyngrwyd Wi-Fi Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
- Siart droi a phennau
- Lloriau finyl
- Hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn
- Cyfleusterau cegin
Yr Ystafell Synhwyraidd
- Awyrgylch rhyngweithiol sy'n tawelu
- Yn ddelfrydol ar gyfer grwpiau o hyd at 10 o bobl neu ar gyfer rhyngweithio un i un
- Yn cynnig ystod o ysgogiadau sy’n fuddiol ar gyfer amrywiaeth o anghenion datblygiadol
- Hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio
The Willow Room
- Mae lle i hyd at 4 o bobl i eistedd o amgylch bwrdd crwn
- Siart droi a phennau
- Cysylltiad â rhyngrwyd Wi-Fi Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
- Hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn
- Lloriau carped
Ystafell y Ffawydd (The Beech Room)
- Ystafell lai gyda soffa fach a chadair gyfforddus, sy'n fwy addas ar gyfer sesiynau goruchwylio neu sgyrsiau anffurfiol
- Bwrdd gwyn a phennau
- Cysylltiad â rhyngrwyd Wi-Fi Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
- Lloriau carped
- Dŵr poeth ar gael
- Hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn
Cysylltwch â ni: canolfandechraundegaman@rctcbc.gov.uk