Mae'r ganolfan wedi'i lleoli yng Nghwm Rhondda, ar dir Ysgol Gynradd Pen-rhys. Mae gan y ganolfan ei maes parcio ei hun, sydd ar wahân i faes parcio'r ysgol. Mae hefyd yn gartref i leoliad Dechrau'n Deg yr Awdurdod Lleol sydd wedi'i hen sefydlu. Mae 21 o leoedd parcio ar gael ar y safle, ac mae 2 o'r rhain ar gyfer pobl anabl. Mae gan yr adeilad unllawr fynediad i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio drwyddo draw.
Yr Ystafell Gymunedol
- Mae lle i hyd at 30 o bobl. Mae modd addasu'r ystafell i weddu i anghenion penodol gwasanaeth, gan osod cadeiriau yn unig neu fyrddau a chadeiriau.
- Mae modd defnyddio hanner yr ystafell gyda drysau gwrthsain os oes angen.
- Mae sgrîn hybrid ar gael, sy'n ddelfrydol ar gyfer cyfarfodydd neu gyflwyniadau rhithwir
- Cysylltiad â rhyngrwyd Wi-Fi Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
- Taflunydd a sgrîn
- Siart droi a phennau
- Cyfleusterau cegin
- Lloriau finyl
- Hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn
Yr Ystafell Gynadledda
- Mae le i eistedd hyd at 8 o bobl
- Siart droi a phennau
- Cysylltiad â rhyngrwyd Wi-Fi Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
- Lloriau carped
- Cyfleusterau cegin
- Hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn
'The Cwtch'
- Mae lle i hyd at 6 o bobl
- Mae modd addasu'r ystafell i weddu i anghenion penodol gwasanaeth, gan osod cadeiriau yn unig neu fyrddau a chadeiriau.
- Cysylltiad â rhyngrwyd Wi-Fi Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
- Siart droi a phennau
- Lloriau finyl
- Hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn
Cysylltwch â ni: CanolfanDechraunDegPen-rhys@rctcbc.gov.uk