Mae gofalu amdanoch chi'ch hun yn rhan bwysig o fod yn rhiant. Mae bod yn rhiant yn heriol ac yn gofyn am lawer o egni corfforol ac emosiynol. Mae lles plant wedi'i gysylltu'n agos â lles eu rhieni a bydd Carfan Teuluoedd Cydnerth yn cymryd yr amser i siarad â chi am eich lles a sut i'w gadw ar y trywydd iawn!
- Mae noson dda o gwsg yn hollbwysig.
- Gwnewch amser i chi'ch hun bob dydd.
- Byddwch yn greadigol - rhowch gynnig ar liwio.
- Mae cerdded yn yr awyr agored yn fuddiol i glirio'r meddwl. Bydd cyn lleied â 10 munud yn gwneud lles i chi.
- Darllenwch lyfr neu gylchgrawn yn hytrach nag edrych ar eich ffôn.
- Cyfyngwch yr amser rydych chi'n edrych ar sgrîn cyn mynd i'r gwely.
- Rhowch gynnig ar gael bath i ymlacio.
- Trefnwch gwrdd â ffrindiau i gael sgwrs dros goffi.
- Rhowch gynnig ar fyfyrio gan ddefnyddio'r ddolen isod.
- Archwiliwch wasanaethau a chyfleoedd lleol sy'n hyrwyddo lles. Ystyriwch Mind, Camau'r Cymoedd, Cymunedau am Waith, Cynllun Hapi a New Horizons.
Dolenni defnyddiol: