O dro i dro, mae angen cymorth rhieni/gwarcheidwaid ar blant i gydnabod eu hemosiynau a'u rheoli. Gall plant, yn debyg i oedolion, brofi ystod eang o emosiynau ac mae hynny'n gwbl iach. Weithiau mae plant a phobl ifainc yn ei chael hi'n anodd cyfathrebu eu teimladau ar lafar gan nad ydyn nhw o reidrwydd yn deall digon amdanyn nhw. Mae hyn yn golygu eu bod nhw'n cyfathrebu eu teimladau trwy eu hymddygiad. Gall rhieni a gwarcheidwaid helpu plant a phobl ifainc i ddeall pam eu bod nhw'n teimlo ffordd benodol a sut i ofyn am gymorth.
Dyma ein hawgrymiadau ni ar beth i'w wneud yn y sefyllfa yma:
- Deall y teimlad.
Helpwch eich plentyn i ddeall enwau eu holl deimladau a beth maen nhw'n eu golygu. Gan ddibynnau ar oed y plentyn, mae modd gwneud hyn trwy ddefnyddio cardiau neu luniau. Wrth chwarae, darllen neu wylio'r teledu siaradwch am yr emosiynau rydych chi'n eu gweld. Er enghraifft, "mae'r person yna'n edrych yn drist, yn grac neu'n rhwystredig" neu "rwyt ti'n edrych yn hapus iawn wrth chwarae gyda'r tegan yna".
- Normaleiddiwch y teimlad.
Mae plant yn debygol o sylwi pan mae eu rhieni/gwarcheidwaid yn drist felly byddwch yn agored am eich teimladau. Os yw eich plentyn chi'n drist dywedwch "mae'n iawn i fod yn drist, byddwn i'n drist petai hynny'n digwydd i mi hefyd".
- Rhowch gyfle iddyn nhw siarad
Gyda phlant iau, mae cymryd eich amser i chwarae gyda nhw yn rhoi cyfle i chi fondio a siarad am bethau sy'n peri pryder iddyn nhw.
Gyda phlant hŷn a phobl ifainc, ceisiwch drefnu eich bod chi'n treulio amser gyda'ch gilydd megis gwylio ffilm, mynd am dro neu ar feic. Rhowch gyfle iddyn nhw siarad yn agored. Os ydych chi'n gwybod bod rhywbeth yn eu poeni nhw, rhowch gynnig ar ofyn cwestiynau uniongyrchol pan maen nhw'n teimlo'n bwyllog. Efallai byddan nhw'n ddiolchgar eich bod chi wedi gofyn!
Weithiau mae plant a phobl ifainc yn teimlo'n gyfforddus yn siarad yn agored gydag aelodau teulu neu ffrindiau. Anogwch nhw i dreulio amser gyda phobl agos atyn nhw fel bod cyfle ganddyn nhw i siarad yn agored gyda phobl eraill.
- Wrth siarad am deimladau.
Wrth siarad am deimladau gyda'ch plentyn, rhowch gyfle iddo deimlo'r emosiynau a pheidiwch â cheisio datrys y broblem. Ceisiwch esbonio pam ei fod yn teimlo ffordd benodol. Er enghraifft, gyda phlant ifainc, rhowch gyfle ar greu stori am yr hyn a ddigwyddodd a sut roedden nhw'n teimlo.
Ceisiwch...
...aros yn bwyllog
...Gwrando yn astud
...Dilysu teimladau eich plentyn
...Eu helpu nhw i ddisgrifio eu hemosiynau
...Ailadrodd yr hyn maen nhw'n ei ddweud
...Bod yn garedig
...Tawelu eu meddwl
Tawelwch eu meddwl: Mae modd gwneud hyn trwy aros yn agos atyn nhw, cynnal cyswllt llygad neu wneud ystumiau cadarnhaol megis nodio eich pen i ddangos eich bod chi'n deall.
Ceisiwch beidio....
...Amlygu'r pethau rydych chi'n credu maen nhw wedi'u gwneud yn anghywir
...Awgrymu eu bod nhw'n teimlo ffordd benodol
...Mynnu eu bod nhw'n ymddwyn mewn ffordd benodol er mwyn 'datrys' y broblem
...Defnyddio beirniadaeth
Os ydych chi'n poeni am emosiynau eich plentyn, cysylltwch â'ch Ymwelydd Iechyd neu drefnu apwyntiad gyda'ch Meddyg Teulu.