Gall magu plant yn eu harddegau fod yn heriol. Wrth i blant dyfu i fyny maen nhw'n mynd trwy bob math o newidiadau corfforol a meddyliol ac yn dechrau dod yn fwy annibynnol. Byddan nhw'n datblygu eu barn eu hunain a all fod yn llawn asbri neu'n gryf. Dyma rai awgrymiadau da gan ein harbenigwyr ar sut i gysylltu â'ch plentyn yn ei arddegau a'i helpu ar hyd y ffordd.