Os oes angen help arnat ti ar hyn o bryd, mae modd i ti ffonio 999. Dyma'r rhif i'w ffonio mewn argyfwng.
Dyma enghreifftiau o ba bryd i ffonio 999:
- Rwyt ti neu rywun arall wedi brifo neu rwyt ti'n meddwl y bydd rhywun yn dy frifo di.
- Mae trosedd yn digwydd nawr.
- Rwyt ti ar goll.
- Mae tân neu mae pobl yn gaeth.
- Mae rhywun mewn trafferth ar y clogwyni, ar y draethlin neu ar goll ar y môr.
- Neu rwyt ti'n meddwl dy fod di neu rywun arall mewn unrhyw fath o berygl.
Dyma beth sydd angen i ti ei wneud wrth wneud galwad brys:
- Cymera anadl ddofn a pheidio â chynhyrfu
- Ffonia 999 o'r ffôn agosaf. Does dim angen arian/credyd, signal na hyd yn oed cerdyn sim i ffonio 999. Os nad oes ffôn gyda ti, ceisia weiddi am help os yw'n ddiogel i ti wneud hynny.
- Bydd rhywun yn ateb y ffôn. Dyweda wrthyn nhw beth sy'n bod.
- Dyweda wrthyn nhw dy enw a ble rwyt ti. Mae hyd yn oed yn well os wyt ti'n gwybod y cyfeiriad. Os nad wyt ti'n gwybod ble rwyt ti, ceisia edrych ar y pethau o'th gwmpas a cheisia eu disgrifio. Os wyt ti dan do, ceisia edrych y tu allan. Os yw'n ddiogel i ti wneud hynny, gofynna i rywun ble rwyt ti.
- Eglura beth sydd wedi digwydd.
- Bydd y person ar y ffôn yn dweud wrthot ti beth i'w wneud. Gwranda arnyn nhw'n ofalus. Arhosa ar y ffôn nes eu bod nhw'n rhoi gwybod i ti ei bod yn iawn i ti roi'r ffôn i lawr.
- Arhosa mewn man diogel nes bydd carfan brys yn cyrraedd.
Os nad yw'n argyfwng ond rwyt ti'n meddwl bod angen cymorth neu gyngor arnat ti, mae modd i ti siarad ag athro yn dy ysgol i'th helpu di. Mae modd i ti hefyd siarad â ffrindiau a theulu rwyt ti'n ymddiried ynddyn nhw. Mae modd i ti hefyd gysylltu â Childline ar 0800 1111 neu ar-lein.
Mae modd i ti roi gwybod i Heddlu De Cymru am drosedd ar-lein os nad yw’n argyfwng neu mae modd i ti ffonio’r heddlu ar y rhif di-argyfwng, sef 101.