Os ydych chi, neu unrhyw un o'ch cwmpas wedi brifo, yn ddifrifol wael neu mewn perygl, ffoniwch 999 ar unwaith. Cliciwch yma i wybod beth i'w wneud mewn argyfwng.
Mae llawer o wasanaethau yn RhCT yn gallu rhoi cyngor a chymorth i blant a phobl ifainc hyd at 25 oed. Rydyn ni wedi eu rhoi nhw i gyd mewn un lle fel bod modd i chi benderfynu'n gyflym pa un sydd orau i chi.
Mae Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS) yn cynnig cymorth i blant sydd â rhieni yn y lluoedd arfog yn RhCT
Cynhalwyr Ifainc. Mae RhCT yn cynnig cymorth i bobl ifainc sy'n gofalu am riant, oedolyn neu frawd neu chwaer
Mae gan Childline gyngor ac arweiniad ardderchog ar y pynciau canlynol
- Byw mewn gofal
- Cynhalwyr ifainc
- Problemau teuluol
- Ysgariad a gwahanu
- Rhedeg i ffwrdd
- Llys-deuluoedd ac ail deuluoedd
- Gwasanaethau Cymdeithasol
- Digartrefedd
- Camdriniaeth
- Symud allan
- A llawer yn rhagor!
Mae modd i Gyngor ar Bopeth yn RhCT eich helpu gyda'r isod:
- Byw gyda'ch gilydd
- Gwahanu ac ysgariad
- Trais rhywedd
- Gofalu am bobl