Os ydych chi, neu unrhyw un o'ch cwmpas wedi brifo, yn ddifrifol wael neu mewn perygl, ffoniwch 999 ar unwaith. Cliciwch yma i ddarganfod beth i'w wneud mewn argyfwng.
Gall poeni am arian roi straen mawr arnoch chi. Mae llawer o wasanaethau yn RhCT yn gallu rhoi cyngor a chymorth ariannol i blant a phobl ifainc hyd at 25 oed. Rydyn ni wedi eu rhoi nhw i gyd mewn un lle fel bod modd i chi benderfynu'n gyflym pa un sydd orau i chi.
Mae Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS) yn cynnig cyngor ar faterion ariannol i bobl ifainc yn RhCT fel:
- Banciau a chymdeithasau adeiladu
- Buddion
- Cyllidebu
- Dyled
Mae modd i sefydliad Cyngor ar Bopeth yn RhCT eich helpu gyda:
- Buddion
- Dyled
- Tai
- Materion Defnyddwyr
- Tocynnau parcio
Mae gan Childline gyngor ac arweiniad ardderchog ar y pynciau canlynol:
- Poeni am arian
- Ymdopi â phroblemau ariannol
- Cyllidebu
- Arbedion
Mae gan y GIG gyngor ar sut i ymdopi â phryderon ariannol
Mae gan Shelter Cymru adnoddau a chyngor swyddfa ar y canlynol:
- Cymorth brys gydag arian
- Dyled
- Morgeisi
- Cyngor ariannol
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnig amrywiaeth o gardiau teithio am bris gostyngol megis:
- Tocyn trên Two Together
- Tocyn trên 16-17 Saver
- Tocyn trên 16-25
- Tocyn trên 26-30
- Tocyn trên Teulu a Ffrindiau
- Tocyn trên i Bobl dros 60 Oed
- Tocyn trên i Bobl Anabl
- Cerdyn Gostyngiadau Teithio Canolfan Byd Gwaith a Mwy
- Tocyn trên i Fyfyrwyr
- Tocyn trên i Gyn-filwyr
Mae DEWIS yn gronfa ddata o'r holl wasanaethau cymorth yn eich ardal chi. Mae modd gweld rhestr o'r holl wasanaethau sy'n rhoi cyngor ar faterion ariannol yn RhCT yma.