Mae'r Gwasanaethau Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid yn cynnig ystod eang o weithgareddau ar ôl ysgol ac yn ystod y gwyliau a nifer o glybiau!
Mae holl weithgareddau'r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid am ddim ac mae angen caniatad gan riant/gwarcheidwaid er mwyn cymryd rhan (os ydych chi'n iau nag 18 oed).
Mae gweithgareddau'r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid yn digwydd ledled RhCT - bwriwch olwg ar y calendr ar wefan y gwasanaeth i weld pa weithgareddau sy’n digwydd yn eich ardal leol!
Am ragor o wybodaeth am sut i gymryd rhan a sut i gysylltu â'r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid, siaradwch â Gweithiwr Ieuenctid yn eich ysgol neu ddilyn y ddolen yma i weld rhagor o ffyrdd o gysylltu!