Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i bob plentyn oedran ysgol statudol gael mynediad i addysg, a bydd hwn fel arfer yn digwydd yn yr ysgol. Rwyt ti'n oedran ysgol statudol o’r tymor ar ôl dy ben-blwydd yn 5 oed hyd at ddiwedd y flwyddyn ysgol yn dilyn dy ben-blwydd yn 16 oed (Blwyddyn 1 i Flwyddyn 11).
Mae ysgol yn rhan fawr o fywyd bob dydd. Yma, mae gyda ni ychydig o gyngor ar bob agwedd o fywyd ysgol a hefyd, mae modd i ni dy gyfeirio di at wasanaethau eraill sy'n cynnig cyngor. Os wyt ti'n poeni am yr ysgol, dylet ti siarad ag athro, aelod o'r teulu neu ffrind rwyt ti'n ymddiried ynddo. O bosibl, bydd siarad yn gwneud i ti deimlo'n well ac efallai y bydd modd i'r bobl yma dy helpu di. Gall hyn fod yn anodd felly efallai y bydd yn haws i ti ysgrifennu dy bryderon mewn llythyr. Mae bob amser yn dda cynllunio'r hyn rwyt ti am ei ddweud yn gyntaf a meddwl am yr hyn hoffet ti i ddigwydd nesaf. Er enghraifft:
- Beth yn union sy'n bod?
- Sut mae'n gwneud i ti deimlo?
- Pa mor hir mae wedi bod yn digwydd? / Ers faint wyt ti wedi bod yn teimlo fel hyn?
- Sut byddet ti'n hoffi i'r bobl yma dy helpu di?
- Beth fyddet ti'n hoffi i ddigwydd?
Mae gan Gyngor Rhondda Cynon Taf lawer o wybodaeth am ei ysgolion ar-lein. Mae hyn yn cynnwys:
- Presenoldeb Ysgol, Lles a Diogelu
- Dyddiadau tymhorau a chau ysgolion
- Cydraddoldeb, Cynhwysiant ac Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Arlwyo a Phrydau Ysgol am Ddim
- Arweiniad a Chefnogaeth Cyfrwng Cymraeg
- Cludiant i'r ysgol
- Gwasanaeth Materion Derbyn Disgyblion
- Cerddoriaeth
Mae gan y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS) wybodaeth am ddewis opsiynau ym Mlwyddyn 9 a newid ysgol.
Os nad wyt ti'n mynd i'r ysgol yn rheolaidd, mae'n bosibl y bydd y Gwasanaeth Mynychu'r Ysgol a Lles (AWS) yn cysylltu â'th rieni neu warcheidwaid i gynnig cymorth i ti. Os oes gen ti broblemau sy’n effeithio ar dy bresenoldeb di, mae modd i’r Gwasanaeth Mynychu'r Ysgol a Lles dy helpu di, dy rieni neu dy warcheidwaid di a dy ysgol di i ddatrys y problemau yma. Mae croeso i ti hefyd gysylltu â nhw am gyngor.
Os wyt ti'n Blentyn sy'n Derbyn Gofal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, bydd gen ti Gynllun Addysg Personol. Mae modd dod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn ar wefan yma.
Mae gan Childline gyngor ac arweiniad ardderchog ar y pynciau canlynol:
- Gwaith cartref ac adolygu
- Straen arholiad
- Canlyniadau arholiadau
- Paratoi ar gyfer arholiadau
- Symud ysgol
- Gwaharddiad o'r ysgol
- Dyslecsia ac anawsterau dysgu
- Dy ddyfodol di
Mae gan SNAP Cymru wybodaeth a chymorth ar y pynciau canlynol:
- Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Cael cymorth gan yr ysgol
- Cael cymorth gan yr awdurdod lleol
- Cael help gan wasanaethau iechyd
- Gwaharddiadau
- Lleoliad
- Gwahaniaethu
Mae Meic yn wasanaeth eiriolaeth sy’n cael ei gynnig i bobl hyd at 25 oed yng Nghymru.
Mae Meic yn cynnig cymorth i dy helpu di i fynegi dy farn, a sefyll i fyny dros dy hawliau.
Os wyt ti'n mynd i ysgol mewn awdurdod lleol arall, mae modd dod o hyd i wybodaeth yma: