Os wyt ti, neu unrhyw un o'th gwmpas wedi brifo, yn ddifrifol wael neu mewn perygl, ffonia 999 ar unwaith. Clicia yma i ddysgu beth i'w wneud mewn argyfwng.
Mae llawer o wasanaethau yn RhCT sy'n gallu rhoi cyngor a chymorth i blant a phobl ifainc o bob oed. Yn y rhestr yma cei di ddod o hyd i'r cymorth sydd ei angen arnat ti.
Mae Cyngor RhCT yn cynnig cyngor ar unrhyw adeg i blant sy'n meddwl nad ydyn nhw'n cael gofal priodol gartref neu'n meddwl bod rhywun wedi gwneud rhywbeth iddyn nhw nad ydyn nhw'n teimlo sy'n iawn. Clicia ar y ddolen yma i ddysgu sut i gysylltu â nhw.
Mae Childline yma i helpu plant fel ti gyda phob math o broblemau sydd o bosibl gyda nhw:
- Bwlio
- Ddim yn teimlo'n ddiogel gartref neu gyda phobl eraill
- Diogelwch ar-lein
Heddlu De Cymru, mae modd i'r heddlu dy helpu di os:
- Mae rhywun wedi dy frifo di.
- Mae rhywun yn gofyn i ti wneud pethau dwyt ti ddim yn meddwl sy'n iawn, neu bethau sy'n peri gofid i ti.
- Dwyt ti ddim yn teimlo'n ddiogel gartref neu rwyt ti o'r farn dy fod di ddim yn derbyn gofal.
Mae modd i DEWIS gynnig gwasanaethau a all helpu yn dy ardal di. Cei di weld rhestr o'r holl wasanaethau a all helpu pawb i gadw'n ddiogel yn RhCT yma.