Yma yng Nghymru lle rydyn ni'n byw, mae'r gyfraith yn nodi bod yn rhaid bod modd i bob plentyn gael addysg ar ôl ei ben-blwydd yn 5 oed. Mae yna ychydig o wahanol ffyrdd y mae modd i hyn ddigwydd ond bydd y rhan fwyaf o blant yn mynd i ysgol. Efallai y bydd rhai yn aros gartref a chael addysg mewn modd ychydig yn wahanol. Rydyn ni i gyd yn treulio llawer o amser yn yr ysgol! Mae'n rhan bwysig iawn o'n bywydau lle mae modd i ni ddysgu, gwneud ffrindiau a bod yn heini. Mae'n iawn i ti deimlo'n bryderus am yr ysgol weithiau ond mae hefyd yn bwysig iawn dy fod di'n siarad â rhywun am sut rwyt ti'n teimlo.
Os wyt ti'n poeni am unrhyw beth o gwbl siarada ag athro, aelod o'r teulu neu ffrind rwyt ti'n ymddiried ynddo.
Mae modd i siarad wneud i ti deimlo'n well ac efallai y bydd modd iddyn nhw dy helpu di. Mae bob amser yn dda cynllunio'r hyn rwyt ti am ei ddweud yn gyntaf a meddwl am yr hyn yr hoffet iddo ddigwydd nesaf. Er enghraifft:
- Beth sy'n bod
- Sut mae'n gwneud i ti deimlo
- Ers pryd mae hyn wedi bod yn digwydd neu ers pryd rwyt ti wedi bod yn teimlo fel hyn
- Sut hoffet ti iddyn nhw dy helpu di
- Beth hoffet ti i ddigwydd
Rydyn ni wedi dwyn ynghyd gwefannau a allai fod o gymorth i ti yn yr ysgol - gweler isod.
Mae gan Gyngor Rhondda Cynon Taf lawer o wybodaeth am ei ysgolion ar-lein.
Os nad wyt ti'n mynd i'r ysgol yn aml iawn, efallai y bydd y Gwasanaeth Mynychu'r Ysgol a Lles yn cysylltu â dy rieni neu gynhaliwr/gwarcheidwad. Mae modd iddyn nhw eich helpu chi i gyd i weithio trwy unrhyw broblemau a dy helpu di i fynd i'r ysgol yn fwy rheolaidd.
Os wyt ti'n Blentyn sy'n Derbyn Gofal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, bydd gyda ti Gynllun Addysg Personol. Mae modd i ti ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn yma.
Mae gan Childline gyngor a chanllawiau ardderchog ar y pynciau canlynol:
- Gwaith cartref ac adolygu
- Straen arholiadau
- Canlyniadau arholiadau
- Paratoi ar gyfer arholiadau
- Symud ysgol
- Cael dy wahardd o'r ysgol
- Dyslecsia ac anawsterau dysgu
- Dy ddyfodol
Mae gan SNAP Cymru wybodaeth a chymorth ar y pynciau canlynol:
- Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Cael cymorth gan yr ysgol
- Cael cymorth gan yr awdurdod lleol
- Cael cymorth gan yr adran Iechyd
- Gwaharddiadau
- Lleoliad
- Gwahaniaethu
Mae Meic yn wasanaeth eiriolaeth sy’n cael ei gynnig i bobl hyd at 25 oed yng Nghymru. Maen nhw'n rhoi cymorth i ti i dy helpu i fynegi dy farn, ac yn dy helpu i sefyll dros dy hawliau. Os wyt ti'n mynd i ysgol mewn awdurdod lleol arall, cei di ddod o hyd i wybodaeth yma: