Amser Stori a Rhigymau

Mae’r sesiynau galw heibio yma'n cael eu cynnal yn wythnosol yn y gymuned. Mae'r sesiynau'n rhoi cyfleoedd i wella lleferydd ac iaith eich plentyn trwy ganu hwiangerddi. 

Mae modd i deuluoedd fynd i'r grwpiau yma gyda'i gilydd. Mae'n bosibl y bydd rhieni/gwarcheidwaid yn derbyn ambell i ddarn o gyngor defnyddiol a fydd yn helpu i ddatblygu sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu eu plant, a'r cyfan wrth gael hwyl gyda'i gilydd. 

Pwy sy'n gymwys? Teuluoedd â phlant rhwng 0 a 4 oed. 
Pris: Mae'r gwasanaeth yma am ddim. 
Lleoliad: Cynhelir y sesiynau yma yn y gymuned. 
Hyd: Mae'r sesiynau'n para awr. 
Ydy'r sesiynau'n cael eu cynnal fesul grŵp neu un-wrth-un? Fesul grŵp - rhiant/gwarcheidwad a phlant gyda'i gilydd. 

I wybod lle mae'n lleoliadau presennol ac os hoffech chi gadw lle ar sesiwn galw heibio, anfonwch e-bost aton ni: 
SiaradaChwarae@rctcbc.gov.uk