Diben rhaglen EarlyBird Plus yw sicrhau bod rhieni a gwarcheidwaid yn deall anghenion eu plentyn/plant yn dilyn diagnosis o Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig.
Dyma raglen 8 wythnos ar gyfer rhieni/gwarcheidwaid sydd â phlant sydd rhwng 4 ac 8 oed sydd ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig.
Pwy sy'n gymwys? Mae'r cwrs yma ar gyfer rhieni/gwarcheidwaid plant rhwng 4 a 10 oed sydd wedi cael diagnosis o Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig.
Pris: Am ddim
Lleoliad: Dydy lleoliad y cwrs ddim wedi’i gadarnhau - bydd rhagor o wybodaeth ar gael maes o law.
Hyd: Sesiwn dwy awr yr wythnos am 8 wythnos
Sesiwn grŵp neu un wrth un? Sesiynau i grwpiau bydd y rhain a byddan nhw'n cael eu cynnal naill ai'n rhithiol neu yn y gymuned.
Mae modd i deuluoedd ffonio'r garfan Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth ar 01443 425006 neu e-bostio CarfanGCC@rctcbc.gov.uk er mwyn cofrestru ar gyfer y rhaglen yma.