Os ydych chi, neu unrhyw un o'ch cwmpas wedi brifo, yn ddifrifol wael neu mewn perygl, ffoniwch 999 ar unwaith. Cliciwch yma i wybod beth i'w wneud mewn argyfwng.
Mae'ch iechyd meddwl chi'n bwysig gan ei fod yn effeithio ar y ffordd rydych chi'n meddwl, yn teimlo ac yn ymateb i bethau yn eich bywyd. Dydy iechyd meddwl da ddim yn golygu byddwch chi'n teimlo'n hapus drwy'r amser, mae pethau'n digwydd i bob un ohonon ni sy'n gwneud i ni deimlo dan straen, yn bryderus, neu'n drist. Weithiau byddwn ni'n dod dros y teimladau hyn yn gyflym ac ar adegau eraill bydd yn cymryd ychydig yn hirach, ac mae hynny'n iawn. Serch hynny, os yw'r meddyliau neu'r teimladau hyn yn para am amser hir neu os ydych chi'n teimlo na allwch chi ymdopi â nhw, mae'n bryd cael rhywfaint o help.
Mae mynd allan yn helpu i'ch cadw chi'n iach ac yn hybu iechyd meddwl wrth i chi gymdeithasu a chwrdd â phobl newydd ar hyd y ffordd. Rydyn ni wedi casglu rhai syniadau ar yr hyn y mae modd i chi ei wneud yn RhCT.
Mae gan y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS) ganllaw defnyddiol ar bwy i gysylltu â nhw am gyngor a chymorth brys o fewn neu y tu allan i oriau swyddfa megis:
- Y gwasanaethau brys
- Cyngor ar faterion iechyd
- Digartrefedd
- Defnyddio cyffuriau ac alcohol
- Camfanteisio ar blant a'u hamddiffyn ar-lein
- Problemau iechyd meddwl
- Atal hunanladdiad
- Anhwylderau bwyta
- Pyliau o banig ac Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol
Mae gan Eye to Eye wasanaeth cwnsela cyfrinachol am ddim. Mae modd cynnal y sesiwn gwnsela yn yr ysgol, eich ardal leol neu ar-lein.
Mae gan Childline gyngor ac arweiniad ardderchog ar y pynciau canlynol:
- Delio â theimladau ac emosiynau
- Ymdopi â phryder, straen a phanig
- Gwasanaethau iechyd meddwl
- Meddwl am hunanladdiad a hunan-niwed
- Problemau bwyta
- Hunaniaeth rhywiol a rhywedd
- Magu hyder a hunan-barch
- Gofyn am help
Mae DEWIS yn gronfa ddata o'r holl wasanaethau a all helpu yn eich ardal. Dyma restr o'r holl wasanaethau a all helpu eich iechyd meddwl a'ch lles yn RhCT.