Dod yn Gyflenwr

Oes gyda chi ddiddordeb mewn dod yn gyflenwr cymeradwy dan gontract i GBSRhCT i ddarparu Gwasanaethau Ieuenctid, Chwarae neu Rianta yn Rhondda Cynon Taf, i ddarparu gofal plant Dechrau'n Deg a Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth mewn lleoliad, neu i fod yn Warchodwr Plant o'ch cartref chi? Os felly, mae croeso i chi wneud cais ar-lein. 

Dyma'r camau y bydd rhaid i chi eu cymryd: 

Cam 1 – Cofrestrwch gydag eDendroCymru. Porth e-Dendro yw eDendroCymru ar gyfer yr holl gyfleoedd contract sy'n cael eu hysbysebu. Mae'n costio dim ac mae modd cofrestru'n gyflym, a dyma lle mae modd i chi gael mynediad at yr holl ddogfennau sy'n ymwneud â'r rhestrau cymeradwy canlynol. 

Cam 2 – Dewch o hyd i'r rhestr(au) cymeradwy y mae diddordeb gyda chi ynddyn nhw: 

  • itt_95216 - Rhestr Gymeradwy ar gyfer Gwasanaethau Ieuenctid a Chwarae 
  • itt_92447 - Rhestr Gymeradwy ar gyfer Gofal Plant Dechrau'n Deg 
  • itt_89423 - Rhestr Gymeradwy ar gyfer Gwasanaethau Cymorth Rhianta 
    • Rhan 1 - Cymorth Rhianta Anffurfiol 
    • Rhan 2 - Rhaglenni Rhianta 
    • Rhan 3 - Ymyriadau Therapiwtig 
      • Therapi Chwarae
      • Therapi i'r Teulu 
      • ERAILL - Gwasanaethau Cwnsela 

Cam 3 – Mynegwch eich diddordeb yn y rhestr gymeradwy yr hoffech chi ddod yn gyflenwr ar ei chyfer  

Cam 4 – Gwnewch gais i ymuno â'r Rhestr Gymeradwy drwy ymateb i holiaduron y Rhestrau Gymeradwy 
 
Mae gwahanol ganllawiau i ddefnyddwyr eDendroCymru wedi'u paratoi i'ch cynorthwyo chi i gael gweld y rhestr(au) cymeradwy, ymateb iddyn nhw a'u diweddaru drwy eDendroCymru. Mae modd i chi weld y canllawiau yn y rhestr o ddogfennau perthnasol ar waelod y dudalen yma. 

Unwaith y bydd eich ymateb chi wedi'i dderbyn, bydd y garfan berthnasol yn asesu'ch cais ac yn rhoi gwybod i chi am y canlyniad. Os na fyddwch chi'n llwyddo'r tro cyntaf, bydd adborth i'ch llywio chi wrth ailgyflwyno. 

Ar ôl eich cymeradwyo chi, byddwch chi'n cael eich gwahodd i gyfleoedd contractio sy'n berthnasol i'r gwasanaeth rydych chi wedi cael eich cymeradwyo ar ei gyfer. 

Mae modd dod o hyd i ragor o wybodaeth a chyngor sy'n ymwneud â phob rhestr gymeradwy ar eDendroCymru.