Amser Stori

Mae darllen straeon gyda'ch plentyn yn ffordd wych o gysylltu â nhw a chreu profiadau  i'w rhannu.  Mae'n helpu'ch plentyn i ddatblygu ei ddychymyg, gwella sgiliau iaith a chefnogi datblygiad gwybyddol. 

story time

Mae gwasanaeth Llyfrgelloedd RhCT yn caniatáu i chi a'ch plentyn fenthyg llyfrau a lawrlwytho e-lyfrau o wefan y llyfrgell. Os byddwch chi'n dod yn aelod o'r llyfrgell, cewch wirio pa deitlau sydd ar gael a rhoi copi wrth gefn fan hyn

Bob mis ar wefan Teuluoedd RhCT byddwn ni'n argymell straeon llawn hwyl i chi eu darllen gyda'ch plant. 

Dyma ein prif argymhellion ar gyfer Medi 2024: 

Storïau Saesneg 

 

Why not?

Os ydych chi'n anelu am y sêr, mae modd i chi wneud unrhyw beth! Mae pobl fel llyfrau, mae llawenydd i'w ganfod o'u mewn. Felly, trowch dudalen a dewch i mewn am hwyl a sbri. Mae’r llyfr yma’n berffaith ar gyfer pob plentyn a phob teulu, mae 'Why Not?' yn stori egnïol, dwymgalon a chadarnhaol sy'n cynnwys darluniau lliwgar sy'n sicr o wneud i chi wenu. Mae'n sicr o ysbrydoli pawb i roi cynnig ar rywbeth - why not?!

Why not

Archebwch gopi yn un o lyfrgelloedd RhCT 

If I had a Crocodile

Mae mwy i grocodeil na'i groen cennog a’i ddannedd dychrynllyd - maen nhw'n bwyllog dan bwysau ac wrth eu boddau yn chwarae Snap ar ddiwrnod gwlyb! Mae'r llyfr yma'n ddoniol ac yn odli sy’n golygu ei fod yn hawdd i blant ei ddeall. Mae'r llyfr yn dod i ben mewn modd boddhaol pan mae'r ferch fach yn disgyn i gysgu - stori berffaith i’w darllen cyn mynd i'r gwely.

If i had a crocodile

Archebwch gopi yn un o lyfrgelloedd RhCT.

 

Straeon Cymraeg 


Cefin y Cyw yn mynd i'r Ysgol

Heddiw yw diwrnod cyntaf Cefin y Cyw yn yr ysgol. A fydd yn deffro ar amser? A fydd yn bwyta ei frecwast? A fydd yn cyrraedd yr ysgol ar amser? Mae digon o dudalennau cyffrous i’w hagor ynghyd â syrpreis ar ddiwedd y llyfr cyffrous hwn!

Cefin y Cyw yn mynd i'r ysgol

Archebwch gopi yn un o lyfrgelloedd RhCT.

Y Monstyr Bach

Mae Rhys eisiau chwarae gyda Mam, ond mae'n rhaid i'w chwaer fach, Meg fynd i'w gysgu yn gyntaf. Ond dyw Meg ddim eisiau cysgu. Mae hi'n tynnu gwallt Rhys, yn taflu ei theganau ac yna mae blew yn tyfu drosti!

Y Monstyr Bach

 Archebwch gopi yn un o lyfrgelloedd RhCT

I gael rhagor o adnoddau a gwybodaeth i’ch helpu chi i ddarllen ac archwilio straeon gyda’ch plentyn, ewch i wefan BookTrust Cymru

Tudalennau yn yr Adran Hon