Beth yw Chwarae?
Chwarae yw'r hyn y mae plant yn ei wneud yn naturiol pan maen nhw’n cael y rhyddid, amser a'r lle i wneud hynny.
Drwy gydol plentyndod, nid dim ond ymddygiad cynhenid ydy chwarae - mae hefyd yn cyfrannu at ansawdd bywyd plant, eu lles a’u datblygiad corfforol, cymdeithasol, emosiynol a gwybyddol.
Dyma elfennau allweddol chwarae:
- Mae’n hwyl
- Mae’n ansicr
- Mae’n heriol
- Mae’n hyblyg
- Dydy e ddim yn gynhyrchiol
Chwarae a’r Byd o’n Cwmpas
Chwarae yw iaith fyd-eang plentyndod. Trwy chwarae mae plant yn deall ei gilydd ac yn gwneud synnwyr o'r byd o'u cwmpas.
Mae chwarae dychmygus yn digwydd pan fydd plentyn yn chwarae rôl, fel chwarae esgus bod yn yr ysgol gyda'i deganau, neu wisgo fel archarwyr i achub y byd. Mae modd i blant gymryd rhan mewn chwarae dychmygus ar eu pen eu hunain neu gydag eraill.
Mae Chwarae Dychmygus yn bwysig ar gyfer datblygu’r ymennydd.
Mae chwarae dychmygus yn helpu plant i wneud y canlynol:
- Datblygu Sgiliau Dysgu Beirniadol
- Dysgu sut i ddilyn rheolau syml
- Cynyddu eu sgiliau cymdeithasol
- Dysgu sut i reoli eu hemosiynau
- Annog creadigrwydd, hyder, a sgiliau datrys problemau
Chwarae a Lles Emosiynol
Chwarae yw'r ffordd y mae plant yn archwilio ac yn mynegi eu hunain ac yn dod i ddeall agweddau emosiynol eu bywydau bob dydd.
Mae chwarae emosiynol yn digwydd pan fydd plentyn yn mynegi ei hun trwy chwarae, pan fydd yn gallu deall a phrofi teimlad cadarnhaol wrth ymgolli'n emosiynol yn yr hyn y mae'n ei wneud.
Mae Chwarae Emosiynol yn helpu plant i ddatblygu’r canlynol:
- Gwydnwch Emosiynol
- Hunanhyder
- Hyder
- Llai o orbryder
- Hunan-werth
- Archwilio teimladau
- Hunanfynegiant
Chwarae a Symudiadau Corfforol
Mae chwarae y tu allan/awyr agored yn galluogi plant i ddatblygu cydbwysedd, cydsymudiad ac ystwythder.
Mae chwarae corfforol yn digwydd pan fydd plentyn yn symud o symudiadau mawr fel rhedeg a neidio i symudiadau bach fel codi pensil neu glymu cwlwm. Mae chwarae corfforol yn bwysig ar gyfer datblygiad yr ymennydd a'r corff. Mae hefyd yn helpu i gryfhau esgyrn a chyhyrau.
Dyma fanteision chwarae corfforol:
- Dysgu sut i symud ein cyrff mewn gwahanol ffyrdd
- Dysgu sut i gydbwyso
- Cadw'n actif ac yn iach yn ddiweddarach yn ein bywyd
- Dysgu sgiliau cymdeithasol fel cymryd tro
- Gweithio mewn parau
- Dilyn rheolau