Hwiangerddi a Rhigymau

Mae modd i blant sy'n dysgu hwiangerddi, rhigymau a chaneuon ennill nifer o fuddion ieithyddol, dysgu a chymdeithasol. Mae modd i chi ddechrau canu hwiangerddi a rhigymau am rifau i'ch plentyn yn syth wedi iddo gael ei eni a pharhau i'w canu cyhyd ag y bydd eich plentyn yn eu mwynhau. 

nursery_rhymes_optimised

Bob mis byddwn ni'n argymell hwiangerddi llawn hwyl i chi eu canu a'u mwynhau.  

Rhigymau am rifau 

Mae plant yn dysgu trwy ailadrodd, felly bydd canu rhigymau am rifau trwy gydol y dydd yn eu helpu i ddod yn gyfarwydd â rhifau a'r patrymau rhyngddyn nhw. 

Fel arfer mae gan hwiangerddi alaw syml ac mae modd eu defnyddio i gefnogi plant ifanc i ymarfer sgiliau mathemateg cynnar. 

Wrth ganu rhigymau am rifau, ceisiwch ddangos y rhifau ar eich bysedd. Bydd hyn yn helpu eich plentyn i ddechrau cysylltu'r rhif â'r nifer. 

Yn ogystal â helpu i ddatblygu ystod eang o sgiliau mathemategol, mae rhigymau am rifau hefyd yn cefnogi datblygiad iaith, sgiliau cymdeithasol ac emosiynol a sgiliau gwrando. 

Mae rhigymau am rifau yn anhygoel. Maen nhw'n helpu plant i ddatblygu amgyffred o rifau mewn ffordd llawn hwyl.  

Rhigwm am rifau, Saesneg - Once I Caught a Fish 


Mae llawer o ffyrdd llawn hwyl o gadw'r gân yma i deimlo'n ffres ac i gyflwyno geiriau newydd i'ch plentyn.  Rydyn ni wedi cynnwys rhai o'n hoff benillion isod: 

  • One, two, three, four, five, Once I caught a crab alive.
  • One, two, three, four, five, Once I caught an eel alive.

Rhigwm am rifau, Cymraeg - 5 Crocodeil 

Rhigymau gyda symudiadau 

Mae'r rhigymau yma'n cynnig ffordd llawn hwyl o ddysgu geiriau newydd i blant a helpu i ehangu eu geirfa. Mae caneuon gyda symudiadau yn ffordd wych o helpu plant i gofio geiriau. Bydd y rhigwm llawn hwyl yma'n helpu'ch plentyn i ddechrau cysylltu gwahanol eiriau â symudiadau.  

Mae modd i'r gân yma helpu gyda sgiliau echddygol bras plant gan eu bod nhw'n defnyddio  gwahanol rannau o'u corff i wneud y symudiadau. Mae modd iddo'u helpu gyda'u cydbwysedd, cydsymudiad a datblygiad eu cyhyrau. Mae modd i ganeuon ailadroddus hefyd helpu i ddatblygu eu sgiliau cofio. 

Bydd eich plentyn wrth ei fodd yn gwylio a chopïo'r symudiadau pan fyddwch chi'n canu gyda'ch gilydd! 

Hwiangerdd gyda symudiadau, Saesneg - Wheels on the bus 


Mae llawer o ffyrdd llawn hwyl o gadw'r gân yma i deimlo'n ffres ac i gyflwyno geiriau newydd i'ch plentyn.  Rydyn ni wedi cynnwys rhai o'n hoff benillion isod: 

  • The horn on the bus goes beep, beep, beep
  • The wipers on the bus go swish, swish, swish
  • The money on the bus goes, clink, clink, clink
  • The driver on the bus says "Move on back"
  • The doors on the bus go open and shut
  • Dogs on the bus go woof, woof, woof
  • The babies on the bus go waa, waa, waa

Hwiangerdd gyda symudiadau, Cymraeg – Clap Clap 

Hwiangerddi neu Rigymau i Gyflwyno Geiriau Newydd 

Mae caneuon am anifeiliaid a natur yn helpu plant i ddysgu am y byd o'u cwmpas. 

Mae gan 'Old MacDonald Had A farm' alaw hawdd a chytgan ailadroddus, ac felly yn aml dyma ydy un o'r caneuon cyntaf y bydd plentyn yn dechrau ei chanu. Mae'r 'EE-I-EE-I-O' bachog yn hawdd i'w gofio sy'n golygu bod modd i blant ymuno cyn eu bod nhw'n gallu dweud gweddill y geiriau 

Mae'r gân yma'n gyfle gwych i ddysgu ac ymarfer enwau anifeiliaid a'r gwahanol synau maen nhw'n eu gwneud. 

Mae'n gân wych ar gyfer datblygiad lleferydd ac iaith. Mae ailadroddiadau diddiwedd ar gael a'r unig eiriau sy'n newid yw enwau'r anifail a'u synau. 

Bydd plant yn cyffroi wrth wneud symudiadau gwahanol yr anifeiliaid a byddan nhw'n dysgu wrth eich gwylio chi! 

Hwiangerdd Ddwyieithog i Gyflwyno Geiriau Newydd - Fferm Tad-cu / Old McDonald Had a Farm 

Rhagor o Hwiangerddi a Rhigymau 

  • Mae gan Tiny Happy People nifer o hwiangerddi Saesneg i chi eu darganfod 
  • Mae gan Cyw nifer o hwiangerddi Cymraeg i chi eu darganfod 

Tudalennau yn yr Adran Hon