Mae'r dechneg yma'n defnyddio amserlenni sy'n cynnwys y presennol (Nawr) a'r dyfodol (Wedyn). Mae'r dechneg yma'n defnyddio cyfarwyddiadau clir a syml er mwyn peidio â gorlethu'r plentyn/person ifanc trwy ofyn gormod o gwestiynau a phentyrru gwybodaeth. Dylai defnydd cyson o'r dechneg yma leihau nifer yr achosion ymddygiadol pan fydd plant â chyflwr niwroamrywiol yn dod yn bryderus. Mae'r dechneg yma'n arf rheoli ymddygiad effeithiol sy'n gymharol rhad i'w rhoi ar waith.
Gall y dechneg yma hefyd fod yn effeithiol wrth geisio sefydlu arferion beunyddiol i blant â chyflyrau niwroamrywiol.
Mae modd creu'r amserlenni trwy ddefnyddio cerdyn trwchus a felcro. Ewch ati i greu adrannau NAWR ac WEDYN ar y cerdyn
- Penderfynwch beth rydych chi am eu defnyddio yn anogaeth weledol, e.e. lluniau, gwrthrychau
- Rhowch felcro ar yr amserlen a glynu eich anogaeth weledol ato. Ar ôl i chi benderfynu ar eich anogaeth weledol, sicrhewch fod digon ohonyn nhw i gwmpasu pob tasg beunyddiol.
- MSicrhewch eich bod chi'n gosod yr amserlen rhywle bydd eich plentyn yn ei gweld.
Gan ddefnyddio'r amserlen Nawr ac Wedyn:
- Dangoswch yr hyn mae angen ei wneud yn gyntaf (nawr) a pha wobr bydd eich plentyn yn ei derbyn wedi iddo gwblhau'r dasg (wedyn).
- Er enghraifft:
Nawr: Brwsio dannedd
Wedyn: iPad
Mae'n bwysig cadw'r system yn syml fel bod eich plentyn yn deall yr hyn rydych chi'n gofyn iddo.
- Defnyddiwch yr amserlen drwy'r dydd a newidiwch y gweithgareddau, er enghraifft:
Nawr: Bwyta swper
Wedyn: Mynd i'r ardd
- Mae'r dechneg yma wedi'i chynllunio i leihau lefelau pryder plant. Ar ôl i chi gyflwyno'r dechneg yma, mae modd ei defnyddio yn rhan o'ch arferion beunyddiol a phryd bynnag mae angen i'ch plentyn chi gwblhau tasg.
- Newidiwch yr anogaeth weledol drwy gydol y diwrnod.
- Mae'n bwysig defnyddio'r dechneg yma'n gyson fel bod y plentyn yn ymgyfarwyddo â hi ac, yn y pen draw, yn dechrau gwneud penderfyniadau o ran pa wobr yr hoffai wedi iddo gwblhau tasg.
Os ydych chi'n poeni am emosiynau eich plentyn, cysylltwch â'ch Ymwelydd Iechyd neu drefnu apwyntiad gyda'ch Meddyg Teulu.