Sioe Deithiol Hwiangerddi'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth

Bydd Sioe Deithiol Hwiangerddi'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth yn mynychu lleoliadau grwpiau i Rieni a Babanod ledled Rhondda Cynon Taf yn ystod Wythnos Hwiangerddi'r Byd rhwng dydd Llun 11 a dydd Gwener 15 Tachwedd 2024

Bydd ein carfan yn canu hwiangerddi gyda grwpiau i Rieni a Babanod er mwyn hyrwyddo'r rôl bwysig maen nhw'n ei chwarae o ran datblygiad plentyndod cynnar ac addysg, yn ogystal â bod yn llawn hwyl!

Mae rhieni, mamau-cu a thadau-cu, y rheiny sy'n addysgu gartref, gwarchodwyr plant, Therapyddion Lleferydd ac Iaith, Llyfrgellwyr, Dosbarthiadau Derbyn a Meithrinfeydd oll yn cymryd rhan bob blwyddyn i nodi wythnos llawn hwyl o hwiangerddi a chanu.

I ddysgu rhagor, cliciwch ar y ddolen i Wefan Hwiangerddi'r Byd.

https://www.worldnurseryrhymeweek.com/

Wedi ei bostio ar 02/10/2024

Rhagor o newyddion