Mae Arolwg y Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth yn fyw!
Hoffai'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth geisio'ch barn a'ch profiadau er mwyn dysgu rhagor am sut mae cymorth y gwasanaeth yn diwallu'ch anghenion.
Os ydych chi'n derbyn cymorth, neu wedi derbyn cymorth, gan unrhyw un o ddarpariaethau'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth, dyma gyfle i chi ddweud eich dweud trwy sganio'r cod QR gyda'ch ffôn neu drwy glicio ar y ddolen isod.
https://RCTCBC.welcomesyourfeedback.net/j90nmx
Sut i sganio cod QR
• Agorwch y camera ar eich ffôn.
• Sganiwch y cod QR gyda'r camera.
• Sicrhewch fod y cod QR yng nghanol sgrîn eich ffôn.
• Arhoswch i'r cod gael ei sganio.
• Agorwch gynnwys y cod QR.
Wedi ei bostio ar 04/01/2024