Gall Llywodraeth Cymru ac Advicelink Cymru eich helpu i hawlio eich arian.
Mae angen ychydig o gymorth a chefnogaeth ar bob un ohonom o bryd i’w gilydd, a gyda chostau byw yn cynyddu mae angen cymorth ar lawer o bobl yng Nghymru nawr.
Mae Llywodraeth Cymru’n gwneud popeth o fewn ei gallu i roi arian yn ôl ym mhocedi pobl.
Yn ogystal â helpu gyda biliau, mae Llywodraeth Cymru’n cynnig ystod o gymorth ar bethau fel costau ysgol a gofal plant a chostau addysg bellach ac uwch. Gallai cyllid o’r Gronfa Cymorth Dewisol hefyd fod ar gael i helpu pobl mewn argyfwng sy’n dioddef caledi eithafol.
Llinell Gymorth ‘Hawlia Dy Arian’ Advicelink Cymru
Os nad ydych yn siŵr pa gymorth sydd ar gael, mae Advicelink Cymru yma i’ch helpu i wirio a hawlio eich arian.
Ffoniwch y llinell gymorth ‘Hawlia Dy Arian’ am gyngor cyfrinachol am ddim ar eich hawl i arian ychwanegol o:
- Fudd-daliadau llesiant, fel Taliad Annibyniaeth Bersonol, Lwfans Gofalwyr a Chredyd Pensiwn.
- Cymorth Llywodraeth Cymru.
Gall cynghorydd drefnu hefyd i chi gael cymorth â materion dyled a chyllid personol.
Beth sy’n digwydd pan fyddaf i’n ffonio’r llinell gymorth?
Pan fyddwch yn cysylltu ag Advicelink Cymru, bydd ymgynghorydd hyfforddedig yn siarad â chi am eich amgylchiadau ac yn eich helpu i ddarganfod pa gymorth sydd ar gael.
Bydd yr ymgynghorydd yn eich cefnogi drwy gydol y broses hawlio ac yn eich helpu i lenwi unrhyw ffurflenni hawlio.
Gallan nhw hefyd gynghori ar ba dystiolaeth y mae angen i chi ei rhoi i gefnogi’ch cais.
Cysylltwch ag ymgynghorydd heddiw drwy ffonio’r llinell gymorth am ddim:
Ffon: 0808 250 5700, o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Gwefan: llyw.cymru/ymaihelpu
Wedi ei bostio ar 27/01/2023