Mae pob plentyn yn haeddu'r dechrau gorau mewn bywyd. Gall cynorthwyo plant yn eu blynyddoedd cynnar wneud gwahaniaeth mawr i'w dyfodol. Mae hyn yn cynnwys datblygu sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu. Mae'r sgiliau yma'n bwysig ar gyfer lles a dysgu. Hebddyn nhw, gall plant wynebu heriau ac anghydraddoldebau gydol oes.
Mae ymgyrch 'Siarad Gyda Fi' Llywodraeth Cymru yn gynllun i wella lleferydd, iaith a chymorth cyfathrebu ar gyfer plant rhwng 0 a 4 blwydd 11 mis oed.
Ar dudalen Llywodraeth Cymru, Siarad Gyda Fi | LLYW.CYMRU , mae adrannau ar gyfer rhieni ac addysgwyr, gyda gwybodaeth ac adnoddau i helpu plant i ddysgu sut i siarad. Mae adnoddau'n cael eu diweddaru ac yn cael eu hychwanegu wrth iddyn nhw gael eu datblygu dros gyfnod yr ymgyrch, felly bwriwch olwg ar y dudalen yn rheolaidd.
Dolenni defnyddiol ychwanegol:
Siarad gyda fi: pecyn adnoddau | LLYW.CYMRU
Facebook - @siaradgydafi
Wedi ei bostio ar 24/04/2023