Storïau

Mae darllen straeon gyda'ch plentyn yn ffordd wych o gysylltu â nhw a chreu profiadau  i'w rhannu.  Mae'n helpu'ch plentyn i ddatblygu ei ddychymyg, gwella sgiliau iaith a chefnogi datblygiad gwybyddol. 

Mae gwasanaeth Llyfrgelloedd RhCT yn caniatáu i chi a'ch plentyn fenthyg llyfrau a lawrlwytho e-lyfrau o wefan y llyfrgell. Os byddwch chi'n dod yn aelod o'r llyfrgell, cewch wirio pa deitlau sydd ar gael a rhoi copi wrth gefn fan hyn

Bob mis ar wefan Teuluoedd RhCT byddwn ni'n argymell straeon llawn hwyl i chi eu darllen gyda'ch plant. 

Dyma ein prif argymhellion ar gyfer Rhagfyr 2024

Storïau Saesneg 

THAT Christmas

Mae'r Nadolig yr un peth bob blwyddyn, yntydi? Yr un bwyd, yr un drefn, ymweld â'r cymdogion a mynd am dro. Ac eithrio’r flwyddyn HONNO. Darganfyddwch beth sy'n digwydd pan fydd traddodiadau'n cael eu chwalu, pan fydd anhrefn yn teyrnasu, a beth sy'n wirioneddol bwysig pan fydd pobl yn dod at ei gilydd.

THAT Christmas

Archebwch gopi yn un o lyfrgelloedd RhCT. 

The Owl who came for Christmas

Rydyn ni’n agosáu at y Nadolig, ac mae'r tŷ wedi’i addurno...Ond mae un teulu ar fin darganfod ymwelydd annisgwyl sydd wedi’i swatio yn eu coeden Nadolig…Tylluan fach o'r enw Rosie! 

The Owl who came for Christmas

Archebwch gopi yn un o lyfrgelloedd RhCT. 

Straeon Cymraeg 

Un Noswyl Nadolig

Mae'r Nadolig yn agosáu, ond mae Draenog Bach wedi anghofio cael anrhegion i'w ffrindiau, a dyw ei dŷ ddim yn sgleiniog a Nadoligaidd o gwbl! Mae Draenog yn mynd i'r goedwig er mwyn dod o hyd i anrhegion, ond mae'r nos yn oer ac mae'r goedwig yn tywyllu.

Un Noswyl Nadolig

Archebwch gopi yn un o lyfrgelloedd RhCT.

Yr Anrheg Berffaith

Mae Billy a Bella yn ffrindiau gorau. Byddan nhw’n gwneud unrhyw beth i sicrhau bod y llall yn hapus. Ond beth fyddai’n digwydd pe bai hynny'n golygu rhoi'r gorau i rywbeth maen nhw'n ei garu?  

Yr Anrheg Berffaith

Archebwch gopi yn un o lyfrgelloedd RhCT. 

I gael rhagor o adnoddau a gwybodaeth i’ch helpu chi i ddarllen ac archwilio straeon gyda’ch plentyn, ewch i wefan BookTrust Cymru

Tudalennau yn yr Adran Hon