Celf a chrefft

Defnyddiwch eitemau sydd gyda chi o gwmpas eich tŷ i greu pethau difyr! 

Gofynnwch i'ch rhiant neu gynhaliwr bob amser cyn i chi fynd ati i greu.  Cewch chi hyd yn oed yn fwy o hwyl os ydyn nhw'n ymuno gyda chi! 

Creu Bwydydd Adar
Creu Addurniadau Toes Halen 
Creu Paent Chwyddog ('Puffy Paint')
Creu Daliwr Gwynt
Llyfrnod Blodau Wedi'u Gwasgu
Paentio Cerrig
Trychfil Rholyn Papur Tŷ Bach
Addurn Sul y Mamau

Creu Bwydydd Adar

Dyma weithgaredd syml llawn hwyl i'r teulu cyfan gymryd rhan ynddo. Mae modd i chi osod eich bwydydd adar yn eich gardd neu fynd ar antur fel teulu i'w osod yn eich parc neu goedwig leol.

Bydd y gweithgaredd yma'n dangos i chi gam wrth gam sut i greu bwydydd adar syml gyda'ch plentyn. Pan fyddwch chi wedi gorffen creu eich bwydydd adar, rhowch e i hongian y tu allan i wylio i weld pwy sy'n dod i ymweld. Ceisiwch enwi'r holl wahanol rywogaethau o adar sy'n dod i'ch bwydydd.

Pethau sydd eu hangen: 

  • Bwyd adar
  • Menyn pysgnau 
  • Rholyn papur tŷ bach gwag 
  • Cyllell 
  • Hambwrdd i rolio'r bwyd adar 
  • Rhaff/llinyn

Cyfarwyddiadau 

  1. Llenwch hambwrdd gyda bwyd adar 
  2. Taenwch fenyn pysgnau dros y rholyn papur tŷ bach 
  3. Rholiwch y rholyn papur tŷ bach yn y bwyd adar 
  4. Tynnwch raff drwy'r rholyn a'i glymu 
  5. Rhowch e allan yn yr awyr agored i fwydo'r adar 

Creu Addurniadau Toes Halen

Gweithgaredd llawn hwyl i'r teulu cyfan ei fwynhau. Does dim byd gwell nag anrheg gan blentyn mae fe/hi wedi'i greu ei hunan. Mae addurniadau toes halen yn ffefryn gan bob cenhedlaeth.

Mae'r toes yma'n syml ac yn hawdd i'w wneud, gan ddefnyddio dim ond 3 cynhwysyn. Unwaith y bydd y toes wedi'i wneud cewch chi a'ch plentyn fod mor greadigol ag yr hoffech chi, gydag unrhyw ddyluniad o'ch dewis. Pan fydd y toes wedi sychu'n llwyr mae modd i chi fynd ati i beintio'ch campwaith! 

Pethau sydd eu hangen: 

  • 1 cwpan o halen
  • 1 cwpan o flawd 
  • Dŵr 
  • Powlen gymysgu 
  • Offer torri/torrwr toes 
  • Hambwrdd pobi 

Cyfarwyddiadau: 

  1. Cynheswch y ffwrn i 50 gradd Celsius 
  2. Cymysgwch yr halen a'r blawd yn y bowlen 
  3. Ychwanegwch ychydig o ddŵr bob hyn a hyn a chymysgu nes bod y gymysgedd yn dechrau edrych fel toes 
  4. Tynnwch y cymysgedd o'r bowlen a'i wasgu nes ei fod yn fwy gwastad 
  5. Ewch ati i greu siapiau a'u gosod ar hambwrdd pobi 
  6. Gofynnwch i oedolyn eu rhoi yn y ffwrn i'w coginio 
  7. Ar ôl eu coginio, gadewch iddyn nhw oeri dros nos 
  8. Yna ewch ati i baentio ac addurno'r siapiau

Creu Paent Chwyddog (Puffy Paint) 

Dyma weithgaredd syml llawn hwyl i'r teulu cyfan gymryd rhan ynddo. Cewch fynd ati dan do ar ddiwrnod gwlyb a glawog neu'r tu allan yn yr haf. 

Bydd y gweithgaredd yma'n dangos i chi gam wrth gam sut i greu Paent Chwyddog gyda'ch plentyn. Cewch ddefnyddio'ch dychymyg a bod mor greadigol ag yr hoffech chi wrth greu eich campweithiau. 

Pethau sydd eu hangen: 

  • Glud PVA
  • Ewyn eillio 
  • Cwpanau/cynwysyddion plastig 
  • Brwshys paent 
  • Papur 

Cyfarwyddiadau: 

  1. Cymerwch gwpan plastig, arllwyswch ychydig o lud PVA i'r cwpan, ychwanegwch ewyn eillio ac ychydig ddiferion o liw bwyd o'ch dewis. 
  2. Cymysgwch y cyfan gyda'i gilydd yn dda. 
  3. Gwnewch yr uchod eto a chreu lliwiau gwahanol o baent chwyddog. 
  4. Ewch ati i greu llun o'ch dewis. 

Creu Daliwr Gwynt

Mae’r gweithgaredd yma'n rhoi cyfle gwych i chi a’ch plentyn fynd am antur natur i gasglu blodau a dail. Pan fyddwch chi wedi bod am dro cewch fynd ati wedyn i greu eich daliwr gwynt gan ddefnyddio'r blodau a'r dail rydych chi wedi'u casglu. Dilynwch y cyfarwyddiadau cam wrth gam i greu eich daliwr gwynt ac yna gwyliwch wrth iddo chwythu a chwifio yn y gwynt. Mae'r dalwyr gwynt blodeuog yma'n syml iawn i'w creu. Mae modd i'r teulu cyfan gymryd rhan yn y gweithgaredd yma. 

Pethau sydd eu hangen: 

  1. Plât papur neu focs cardbord 
  2. Tâp gludiog
  3. Blodau 
  4. Llinyn 
  5. Bag clir 

Cyfarwyddiadau: 

  1. Torrwch ganol y plât papur neu'r bocs cardbord allan 
  2. Llenwch y bag â blodau 
  3. Gludwch y bag i'r plât 
  4. Torrwch ddau gylch allan o focs cardbord 
  5. Torrwch dwll yn y canol 
  6. Rhowch dâp dros y canol 
  7. Gludwch flodau ar yr wyneb gludiog i greu gludwaith 
  8. Gwnewch yr un peth eto a gludwch y ddau gyda'i gilydd 
  9. Gwnewch dwll a thynnu’r llinyn drwyddo 
  10. Ewch ati i'w hongian a'i arddangos. 

Llyfrnod Blodau Wedi'u Gwasgu

Adnoddau:

  • Blodau ffres a/neu ddail (rhai bach a thenau yw'r gorau)
  • Papur er mwyn gwasgu'r blodau (papur tisw gwyn, papur blotio, papur cwyr neu bapur pobi)
  • Llyfrau trwm neu wasgydd blodau
  • Papur cyswllt (gludiog clir)
  • Siswrn
  • Cerdyn
  • Tyllwr
  • Rhuban neu gordyn 

Cyfarwyddiadau:

  • Casgla amrywiaeth o flodau a dail: (Gwna'n siŵr bod y dail a blodau'n fach ac yn denau, dydy blodau trwchus ddim yn gwasgu mor dda.)
  • Rho'r blodyn neu'r ddeilen rhwng y ddau ddarn o bapur (yn wastad heb orchuddio'i gilydd.)
  • Rho'r papur (sydd â'r blodyn neu'r ddeilen) rhwng tudalennau llyfr trwchus (fel encyclopedia neu lyfr nodiadau mawr.)
  • Cau'r llyfr cyn rhoi rhagor o lyfrau trwm ar ei ben. (Rhaid gadael i'r blodau a dail gael eu gwasgu am o leiaf wythnos.)
  • Torra ddau ddarn o bapur cyswllt ar gyfer pob llyfrnod. (Lled o tua 3 modfedd a hyd o tua 7 modfedd.)
  • Tynnu cefn un darn o bapur cyswllt a'i roi ar arwyneb gwastad, gyda'r ochr ludiog yn pwyntio i fyny. (Cofia adael modfedd ychwanegol er mwyn gallu torri'r llyfrnod eto ar y diwedd.)
  • Mae'n amser i greu dy lyfrnod. Rho'r blodau a'r dail ar ochr ludiog y papur cyswllt. (Cofia adael ffin o amgylch y blodau a'r dail fel bod modd i'r papur cyswllt selio.)
  • Selio'r llyfrnodau: Tynna gefn yr ail ddarn o bapur cyswllt a'i roi ar ben y darn cyntaf o bapur cyswllt (ochr ludiog yn wynebu i lawr), gan sicrhau bod yr ymylon mewn rhes.
  • Gwasga i lawr yn galed gan wthio unrhyw swigen aer allan, rhaid selio'r blodau a dail sydd y tu mewn.
  • Torra ymylon y llyfrnod i greu ffin lân o amgylch y blodau a'r dail. (Rhaid bod yn ofalus i beidio torri'n rhy agos i'r blodau rhag ofn i'r papurau ddod yn rhydd o'i gilydd.)
  • Defnyddia dyllwr i roi twll ar frig y llyfrnod. Rho ddarn o ruban drwy'r twll a'i glymu i wneud cwlwm.

Paentio Cerrig

Adnoddau:

  • Cerrig: (Tria ddod o hyd i amrywiaeth o gerrig o feintiau a siapiau gwahanol. Y mwyaf llyfn yw'r arwyneb, yr hawsaf byddan nhw i baentio)
  • Amrywiaeth o baent acrylig lliwgar
  • Brwshys paent meintiau gwahanol
  • Palet neu hambwrdd cymysgu
  • Dŵr a chlwtyn: (Er mwyn glanhau'r brwshys wrth newid lliw'r paent)
  • Papur newyddion neu liain bwrdd (i orchuddio'r arwyneb ble rwyt ti'n gweithio)
  • Ffedog neu hen ddillad: (Rhag ofn bod y paent yn sblasio dros dy ddillad)
  • Seliwr clir (dewisol)

Cyfarwyddiadau

  • Dod o hyd i'r cerrig: (Cofia, y mwyaf llyfn yw'r arwyneb, yr hawsaf byddan nhw i baentio)
  • Paratoi dy gerrig: (Unwaith rwyt ti wedi dod o hyd i dy gerrig, mae'n amser i'w glanhau. Defnyddia ddŵr twym â sebon i gael gwared ar y mwd neu fwsogl (moss). Rhaid i'r cerrig fod yn hollol sych cyn dechrau paentio)
  • Paratoi'r ardal cyn paentio: (Rho bapur newyddion neu liain plastig dros yr ardal ble rwyt ti'n gweithio. Rho'r paent, brwshys, dŵr a chlwtyn yn eu lle. Cofia wisgo ffedog neu hen ddillad rhag ofn bod y paent yn sblasio)
  • Arlunio dy gynllun (dewisol): (Mae modd arlunio dy gynllun yn ysgafn ar y garreg gan ddefnyddio pensil. Does dim rhaid gwneud hyn, ond mae'n gallu bod yn ddefnyddiol os yw dy gynllun yn un cymhleth)
  • Dechrau paentio (Rho dy frwsh yn y paent a dechreua arni! Mae modd paentio dy garreg un lliw cyn dechrau paentio dy gynllun, neu dechreua baentio'n syth)
  • Amser sychu (Arhosa i'r paent sychu cyn paentio unrhyw beth arall ar dy garreg. Bydd gwneud hyn yn sicrhau bod dim paent yn cymysgu)
  • Ychwanegu'r manylion (Defnyddia frwshys llai i ychwanegu manylion neu linellau i dy gynllun. Cofia adael pob haen i sychu cyn ychwanegu'r un nesaf)
  • Rhoi seliwr ar dy garreg (Dewisol, ond rydyn ni'n argymell dy fod yn gwneud y cam yma) (Os wyt ti'n dymuno rhoi'r garreg tu allan, rho seliwr clir neu 'mod podge' drosti. Arhosa i'r garreg sychu cyn ei chyffwrdd)

Syniadau ar gyfer cynllun dy garreg

  • Anifeiliaid: Paentio dy hoff anifeiliaid ar y cerrig. Buwch goch gota, gwenyn, cath.
  • Natur: Paentio’r byd natur, blodau, dail, a choed.
  • Patrymau: Patrymau syml a phatrymau streipiog, smotiog a throellog.
  • Cymeriadau cartŵn a wynebau: Dy hoff gymeriad o lyfr, ffilm neu raglen deledu.
  • Galaeth: Creu galaeth fach dy hun drwy baentio dy gerrig i edrych fel galaeth.
  • Cerrig 'Emoji':Paentio cerrig i edrych fel 'emojis' poblogaidd.

Trychfil Rholyn Papur Tŷ Bach

Offer:

  • Rholyn papur tŷ bach neu diwb cardbord
  • Cerdyn plaen
  • Siswrn
  • Glud
  • Glanhawyr pibell / papur tisw
  • a Rhywbeth ar gyfer lliwio.

Cyfarwyddiadau:

  • Defnyddia ddarn o gerdyn i gynllunio'r trychfil rwyt ti am ei greu (efallai smotiau ar gyfer buwch goch gota neu adenydd ar gyfer pili-pala)
  • Lliwia'r darnau a'u torri nhw allan (efallai bydd angen cymorth gan oedolyn)
  • Gluda dy ddarnau ar y rholyn papur tŷ bach. (Os ydy'r rholyn papur tŷ bach yn rhy fawr, mae modd ei dorri i'w wneud yn llai)
  • Lliwia a gluda'r pethau eraill sydd gen ti ar dy drychfil (defnyddia lanhawyr pibell ar gyfer y clustiau, wisgers neu gynffon a phapur tisw ar gyfer ei drwyn)

Addurn Sul y Mamau

Adnoddau:

  • Papur
  • Siswrn
  • Offer lliwio
  • Glud
  • Gemau (gems) neu lewych (glitter)
  • Tyllwr
  • Cortyn, edau, rhuban neu wlân
  • Cardfwrdd tenau

Cyfarwyddiadau:

Arwydd Sul y Mamau:
  • Tynna lun o gwmwl ar ddarn o gerdyn tenau, dyma fydd dy arwydd Sul y Mamau (rhaid i'r arwydd fod yn faint llawn y cerdyn)
  • Yn y cwmwl, addurna dy neges 'Sul y Mamau Hapus' (beth am ddefnyddio hoff liw dy fam a gemau)
  • Defnyddia'r tyllwr i roi twll ar frig yr arwydd. Rho'r rhuban, edau neu gortyn drwy'r twll. (Dyma sut bydd yr addurn yn cael ei hongian)
  • Rho dri thwll ar waelod dy arwydd Sul y Mamau Hapus. (Dyma sut bydd dy negeseuon yn cael eu clymu i'r arwydd)
Negeseuon Sul y Mamau Hapus:
  • Ar ddarnau ychwanegol o gerdyn tenau, tynna lun 3 o galonnau. Ysgrifenna negeseuon hyfryd i dy fam yn y calonnau. (Rhaid i'r calonnau fod yr un maint â phlât tegan)
  • Torra'r calonnau yn ofalus
  • Lliwia ac addurna'r calonnau (o amgylch dy negeseuon) gan ddefnyddio hoff liwiau dy fam
  • Gluda ddarn o ruban, edau neu gortyn i gefn y 3 calon
  • Rho'r darn o ruban, edau neu gortyn drwy'r 3 thwll a'i glymu'n dynn

Tudalennau yn yr Adran Hon